a Gwlad yr Haf, tu arall i Gulfor Bristol. fan dymunol i fyw, ac yn gyfleus i'r capel. Bu Mr. Evans yn byw yn y lle hwn dros haner can' mlynedd. Wrth gyfeirio at yr amrywiol leoedd hyn y bu yn eu dal, dywedai fel hyn:-"Symudais o Gelligron i Gollena, y lle pritaf; oddi yno i'r Tylcha, y lle mwyaf gofidus; ac oddi yno i'r Trân, y lle hyfrydaf; ac yna i Gaercurlas, y lle hapusaf. Yn y Tylcha mi dreuliais yr hyn oll oedd gen' i—cefais fy nhwyllo a'm hysbeilio; ond y mae yn rhaid i bob dyn gael ei drwytho. Pan symudais i'r Trân, nid oedd gen' i ddim ond fy ngharitor. Ac yn ystod y saith mlynedd y bu'm i yno, gellais lwyddo i wneuthur y stoc i gyd yn rhydd, a daethum i Gaercurlas â rhwng £20 a £40 dros ben." Am y gofidiau a gafodd yn y Tylcha, nid oes genym ddim manylion; ond y mae i'w sylwi ei fod ef yn edrych arnynt fel goruchwyliaeth ag yr oedd yn rhaid ac yn dda iddo ef i fyned drwyddi. Er ei fod yn teimlo y cam a gafodd, nid oedd yn grwgnach dim. Yr oedd fferm y Trân, fel y mae eto, yn perthyn i ystâd Llanharan. Enw yr is-oruchwyliwr yn yr adeg ag yr oedd Mr. Evans yn dal y lle, ydoedd Thomas Jones, yr hwn oedd yn byw yn Brynmenyn, gerllaw Penybont-ar-Ogwr; ac yno yr oedd y tenantiaid yn talu eu rhenti. Yr oedd Mr. Evans felly yn cael cyfle yn achlysurol i weled Thomas Jones. Yn y ciniaw dydd talu'r rhent efe oedd yn cael gofyn bendith a thalu diolch. Er mai rhyw fath o Annibynwr oedd Thomas Jones, yr oedd ganddo barch mawr i'r gweinidog Methodistaidd o Donyrefail. Eithr er yr holl gyfeillgarwch a broffesai, gwnaeth unwaith ei osod mewn profedigaeth a allasai beri niwed iddo. Yr oedd un o'r gweision wedi tari pren ar y tir at wneuthur iau. Gwelwyd hyny gan fab Thomas Jones, a hysbysodd y peth i'w dad. Y tro nesaf yr aeth Mr. Evans ; i dalu'r rhent, dywedodd Thomas Jones wrtho, yn nghlywedigaeth y prif-oruchwyliwr, "Ni ro'is i ganiatad i chwi i dori coed ar y tir, William Evan." "Ofynais i ddim i chwi, a thorais i ddim ond pren iau." "Ie, bid sicr, pob peth yn
Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/57
Gwedd