Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dda; ble gallasech chwi gael coed at eich gwasanaeth ond ar y tir ?" Diangodd y deiliad yn ddianaf, ac ni chlywyd gair am y peth mwyach. Ymwelodd Mr. Evans â Thomas Jones pan ar ei wely angeu. “William Evan," meddai, "os gallwch ddyweyd gair drosto i, gwnewch." Gweddiodd yntau yn ol y cais; ac ychwanegai wrth ddyweyd yr hanes, "Marw yn ddifrifol iawn a wnaeth."

Fel amaethwr, megys ag y bu mewn galwedigaeth uwch, yr oedd yn llawn bywyd a gwaith. Yr oedd yn godwr bore. Edrychai ar ol pob peth yn ofalus a manwl. Byddai yn rhaid

i bawb o'i amgylch i fod yn ddiwyd gyda'u gorchwylion. Un diwrnod daeth rhywun i'r cae lle yr oedd y gwas yn aredig i ymofyn am y meistr; parodd y gwas i'r ceffylau sefyll, ac eisteddodd ar gorn yr aradr a dywedodd wrth y gŵr dyeithr, "Fe fydd yma yn union," gan arwyddo nad oedd neb gerllaw ei feistr ef yn cael hamdden i sefyll yn gwneuthur dim. Gyda'r gair, dyna floedd yn dyfod at yr aradwr oddiar ben clawdd cyfagos, yn ei orchymyn i fyned rhagddo gyda'i orchwyl; ac yn y man mae y gŵr dyeithr yn cael cyfle i ddyweyd ei neges wrth Mr. Evans. Nid oedd amser i'w golli, na dim i'w wastraffu. Os gwelai hoelen neu edefyn o wlân yn rhywle ar y tir, byddai yn sicr o'i godi a'i gadw yn ofalus. Yr oedd yn llygadgraff hefyd i weled y cyfnewidiadau a gymerent le mewn ffermwriaeth. Yr oedd gyda'r cyntaf i droi y tir llafur yn dir blith, ac yr oedd y cyntaf yn ei ardal i gael peiriant at ladd gwair yn lle pladuriau. Gofalai fod y tiroedd yn gwella dan ei ddwylaw, a mynai gadw y stoc oreu mewn anifeiliaid a defaid. Yr oedd trin tir yn orchwyl o hyfrydwch ganddo, ac yr oedd yn cael ei gyfrif gan ei holl gymydogion yn ffermwr rhagorol a llwyddianus. Yr oedd yn cael pleser wrth edrych ar ol y creaduriaid, ac yn cael mwynhad mawr pan welai bethau yn cael eu gwneud yn gryno a thaclus, a dywedai weithiau dan ganu, "Nid oes eisieu cael gwell, nac achos cael rhagor; mae'n gyflawn o ras, a llawn o drugaredd." Ond wedi'r cwbl, ail orchwyl ei