Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fywyd ydoedd amaethu. Yr alwedigaeth uwch a ymddiriedwyd iddo a gafodd ei fryd penaf, a goreuon ei feddwl a'i nerth. Ac yn lle bod yr amgylchiadau bydol yn ei rwystro, yr oedd efe yn eu defnyddio er mantais i'w weinidogaeth. Ni feddyliodd neb erioed am dano ef mai amaethwr yn pregethu ydoedd ; ac nid digon yw dyweyd mai pregethwr yn amaethu ydoedd, ond yr oedd yn dilyn ei alwedigaeth fydol yn y cymeriad o weinidog yr Efengyl; ac ymgadwai oddiwrth bob peth na fyddai yn ymddangos yn gydweddol â'r pregethwr. Ni welid ef un amser mewn na ffair na marchnad. Yr oedd yn gwneud ei holl fusnes, hyd oedd yn bosibl, gartref; ac yr oedd yn fedrus gyda hyny; eithr ar yr un pryd yn arfer cydwybod dda, megys un yn cyflawni gweithred o grefydd. Y mae y gair canlynol o'i eiddo nid yn unig yn dangos y gwahaniaeth rhwng ei ddau frawd, Richard ac Evan, ond hefyd yn ddangosiad o'r hyn ydoedd efe ei hunan yn y peth hwn:—" Pan yn gwneuthur busnes gyda Richard fy mrawd, yr oedd yn gymaint a allaswn ei wneud i ofalu am danaf fy hun; ond pan yn gwneud busnes gydag Evan, yr oedd yn rhaid i mi ofalu am dano ef a'm hunan."

Ganwyd i William a Margaret Evans wyth o blant, yn y drefn ganlynol:—David, Ebrill 29ain, 1816; Margaret, Ionawr 6ed, 1820; William, Mehefin 9fed, 1822; Bess, Ebrill 30ain, 1824; Mary, Medi 25ain, 1826; Ffriswith, Mehefin 5ed, 1830; Howell, Mai 23ain, 1832; a Thomas, Medi 24ain, 1837. Bu farw Bess Ebrill 26ain, 1844; a Mary, Chwefror 2il, 1845. Wrth gyfeirio at ei ddwy ferch hyn, yr ydym yn cofio clywed Mr. Evans yn dyweyd, "Yr oedd Mary yn fwy o gastell, a Bess yn fwy o shy." Bu farw ei fab ieuangaf, Thomas, Rhagfyr 13eg, 1847; ac y mae genym gôf byw am ei alar mawr ef ar ei ol. Nid yn unig efe oedd Benjamin y teulu, ond yr oedd "Thomas bach," fel y gelwid ef, yn blentyn hynod o fywiog, a chyflym, a ffraethbert, ac yn dra serchoglawn ac enillgar. Nid oedd yn llawn flwydd yn hŷn