Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na ni, a buom gyda'n gilydd yn ysgol Howell Hopkin, ar Donyrefail, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ddysgwr cyflym. Ar y pryd y bu farw, yr oedd ei frawd Howell mewn ysgol yn Bath; ac y mae yn ddiameu pe cawsai yntau fyw y rhoddasid iddo addysg dda; ac yr oedd pob argoel y buasai yntau yn tyfu i fyny i fod yn ŵr o alluoedd dysglaer ac enwogrwydd. Yr oedd ei golli yn ddyrnod drom i'w rieni, a galarasant am dano ddyddiau lawer. Bu Mrs. Evans farw Hydref 30ain, 1861, yn 63 mlwydd oed, ar ol cystudd byr, wedi bod (fel y crybwyllwyd yn barod) yn bob cymorth a chysur i'w hanwyl briod yn holl gysylltiadau ei fywyd am yr ysbaid maith o saith mlynedd a deugain a haner. Cafodd Mr. Evans ei nerthu yn fawr i ymostwng i ewyllys yr Arglwydd yn y brofedigaeth chwerw hon. Yn yr unigedd ag yn awr y taflwyd ef iddo meddyliwyd y buasai yn rhoddi i fyny y fferm, ac anogwyd ef i wneud hyny; ond yr oedd yn glynu wrth ei "le hapusaf,” ac ni fynai ei roddi i fyny y pryd hwnw. Y rhwyg nesaf yn ei deulu ydoedd symudiad ei ferch Ffriswith, trwy farwolaeth sydyn a gymerodd le Awst 1af, 1870; yr hon a adawodd amryw o blant amddifaid, yn awr heb dad na mam. Ar yr 2il o Hydref, 1872, bu farw ei fab Howell, yn 40 mlwydd oed. Ni a gawn gyfeirio at hyn mewn penod ddilynol.

Bellach yr ydym unwaith eto yn dychwelyd at y flwyddyn 1814. Dyma'r flwyddyn y cafodd grefydd, ac fe gafodd grefydd amlwg. Fel y dywedai ei chwaer ieuangaf,—"Efe a gafodd ei drwytho yn dda;" aeth "trwy y porth cyfyng. Wedi iddo roddi ei hun i'r Arglwydd ac hefyd i'w bobl, daeth yn fuan i gymeryd rhan flaenllaw yn nygiad yn mlaen yr achos crefyddol ar Donyrefail. Cafwyd ynddo aelod eglwysig ffyddlawn a gweithgar. Yr oedd yn mwynhau yn fawr y cyfarfodydd eglwysig dan arweiniad ei dad a'i gyd—flaenor, Mr. Isaac James o'r Felin. Ni fu yn hir cyn cymeryd ei ran yn y cyfarfodydd gweddi; ac ymdaflodd yn galonog i lafur gyda'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd eisioes o'i febyd wedi