Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trysori llawer o'r Beibl yn ei gof, ac yr oedd yn hanesydd ysgrythyrol da. Mae yn ddiameu iddo wneuthur athraw defnyddiol. Y mae genym le i gasglu iddo weithredu fel ysgrifenydd yr ysgol ar y Ton. Yn y blynyddoedd hyn, sef 0 1814 hyd 1818, y dechreuodd arfer ei ddawn i holi, yn yr hyn y dangosai mewn blynyddoedd diweddarach, yn y Cyfarfodydd Daufisol a'r Cymanfaoedd Ysgolion, lawer o fedrusrwydd dedwydd.

Eithr o ddechreuad ei yrfa grefyddol yr oedd yn argyhoeddiad yn meddyliau pawb mai pregethwr oedd William Evans i fod. Yr oedd "y prophwydoliaethau a gerddasant o'r blaen am dano" yn cyfeirio yn amlwg at hyny,—ei waith yn pregethu cymaint pan yn fachgen, ei gof cryf a chyflym, ei ddawn ymadrodd annghyffredin, ei fywiogrwydd a'i yni rhyfeddol, ei hoffder mawr at bregethwyr a gwrandaw pregethu, y gofal a gymerodd ei dad i'w addysgu pan yn blentyn mewn pethau crefyddol, a'r addysg a roddwyd iddo yn helaethach nag i'r un o'i frodyr a'i chwiorydd, a'r teimlad cyffredinol a ffynai fod rhywbeth hynod ynddo, a hyny o'i febyd. Ac yn awr y mae yr holl bethau hyn wedi eu grymuso gan yr argyhoeddiad dwfn a dwys yr oedd wedi myned trwyddo, ac yr oedd ei effeithiau yn aros mor amlwg arno gyda golwg ar ei gyflwr a'i achos tragywyddol. Ac yn mhellach, deallwyd yn fuan ar ol ei ddychweliad at grefydd a'i ymuniad â'r eglwys yn Nhonyrefail, ei fod yn ail ymaflyd yn y pregethu, ac yn ymarfer i'r gwaith ar hyd y caeau ac mewn lleoedd unig. Ni fuasem, gan hyny, yn rhyfeddu pe buasai wedi dechreu ar y gwaith mawr beth amser yn gynt nag y gwnaeth. Fe ddichon i dri o bethau achosi yr oediad a gymerodd le. Yn gyntaf oll, nid oedd ynddo ef ddim tuedd i ymwthio i'r weinidogaeth. Tueddai efe yn hytrach i ymgadw yn ol. Fel y cawn gyfle i sylwi eto, yr oedd cymaint o ledneisrwydd yn ei natur fel ag i'w rwystro i geisio dim iddo ei hun. Gofynwyd iddo gan Mr. David Williams, o Ferthyr, "Pa bryd yr wyt ti yn myned i ddechreu pregethu?"