Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Peidiwch a son wrthyf am bregethu," oedd ei ateb; a meddai Mr. Williams yn ol, "O, y mae hi yna ei gwala, pa ryw bynag fydd hi." Ac yr ydoedd pregethu yn William Evans yn ddiameuol, ac o ran hyny yn amlwg iawn. Ond yr oedd yn rhaid i un o ddau beth gymeryd lle cyn y buasai efe yn cychwyn allan fel pregethwr: naill ai iddo gael ei gymhell i'r gwaith gan ei frodyr, neu i'r angenrhaid a osodwyd arno i fyned yn drech nag ef. Achos arall o'r oediad yn ddiau ydoedd gochelgarwch ei dad, a phwyll y cyd—flaenor Isaac James o'r Felin. Yr oedd cysylltiad naturiol agos y naill yn ei rwystro i wneuthur dim yn flaenllaw i osod ei fab yn y weinidogaeth; ac y mae yn lled sicr fod y ddau flaenor doeth a duwiol yn cydolygu mai da oedd cael prawf o'r gŵr ieuanc fel crefyddwr cyn ei ollwng i bregethu. Y mae rheswm amgylchiadol hefyd i'w ychwanegu, sydd i fesur yn cyfrif am yr oediad. Nid oedd neb yn mhlith y Methodistiaid y pryd hwnw yn meddwl am i bregethwr "fyw wrth yr efengyl." Yr oedd yn angenrheidiol i bob gweinidog yn y Cyfundeb i drefnu darpariaeth ar gyfer ei gynaliaeth ef a'i deulu yn annibynol ar y gydnabyddiaeth a roddid iddo am bregethu. Tra yr oedd y pâr ieuanc, William a Margaret Evans, yn cartrefu gyda'i mam hi yn y Gelligron, nis gellir edrych arnynt wedi ymsefydlu mewn bywyd; ac wedi iddynt fyned i'r Collena, fe gymerodd beth amser i gychwyn yn briodol yn y byd. Modd bynag y mae yn sicr y dechreuwyd ei gymhell ef gan y frawdoliaeth ar Donyrefail i ddechreu ar y gwaith mawr yn y flwyddyn 1817, os nad yn wir cyn hyny, ac y cymerwyd y musurau angenrheidiol tuag at hyny yn y flwyddyn hono. Traddododd Mr. Evans ei bregeth gyntaf ar ddiwedd yr ysgol un bore Sabboth, oddiar un o risiau isaf y pwlpud yn hen gapel Tonyrefail, os nad cyn diwedd y flwyddyn 1817, yn gynar yn y flwyddyn 1818.