Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV.

1818—1824.

{{c|CYNWYSIAD

William Evans yn dechreu pregethu—Sefyllfa Methodistiaeth yn Morganwg ar y pryd—Mr. Howell Howells, Mr. Hopkin Bevan, Mr. Richard James, Mr. David Williams, Merthyr, Mr. Richard Thomas—Ysgrif o eiddo Mr. D. Roberts, Pontfaen—Rhestr o gapelau Morganwg yn 1818—Teithiau Sabbothol y Sir—Testynau cyntaf Mr. Evans—Cylch y Cyfarfod Misol yn 1819—Ei daith bregethwrol gyntaf allan o'r Sir—Thomas Dafydd, Pencoed, a'i dad—Ei dderbyniad yn aelod o'r Gymdeithasfa—Ei ymweliad cyntaf â Llangeitho—Agoriad capel Glynogwr—Agoriad capel y Ffordd las, ac amryw gapelau ereillLlafur blynyddoedd cyntaf gweinidogaeth William Evans—Ei daith gyntaf i'r Gogledd——Ei ymweliad cyntaf â Bristol.

MAE genym dystiolaeth bendant yr edrychid ar William Evans fel un yn dechreu pregethu yn mis Mawrth, 1818. Yn yr anerchiad a draddodwyd gan Mr. David Howell, Abertawy, yn y cyfarfod a gynaliwyd yn nghapel Tonyrefail, yn Medi, 1868 (adroddiad llawn o'r hwn a ddodir i mewn yn mhellach yn mlaen yn y gwaith hwn), i gyflwyno i Mr. Evans ei ddarlun, dywedodd y bu yn pregethu yn Glynogwr, Dinas, a Thonyrefail, ar Sabboth yn y mis hwnw; ac ar ddiwedd oedfa'r prydnawn yn y Ddinas gofynodd Jenkin Harry iddo, "A sylwasoch chwi ar y dyn ifanc pen—goch oedd yn y cwrdd?" "Do." "Dyna y gŵr ieuanc sydd yn dechreu pregethu yn Nhonyrefail; ac y mae pobl y Ton yn dyweyd ei fod yn ddyn dawnus." Aeth Mr. Howell yn mlaen i adrodd mai yr ail dro iddo weled Mr. Evans ydoedd yn Nghyfarfod Misol Salem, Pencoed, y Pasg dilynol. Yn y Cyfarfod Misol hwnw yr oedd Mr. David Howell yn myned dan arholiad, ac yn cael ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod