Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Misol. Ac wrth adrodd yr hanes trodd at Mr. Evans i ofyn, "A o'ech chwi wedi dechreu pregethu y pryd hwnw?" a'r ateb ydoedd, "O'wn, yn ymyl." Yr esboniad naturiol i'w roddi ar yr atebiad hwn ydyw, ei fod wedi dechreu ar y gwaith mawr, ond nad oedd rhyw lawer o amser er hyny; ac y mae yr hyn a ddywedodd Jenkin Harry ar ddiwedd yr oedfa grybwylledig yn y Ddinas yn awgrymu fod William Evans wedi llefaru yn gyhoeddus, a hyny fwy nag unwaith, ar Donyrefail cyn y Sabboth yr ydym yn awr wedi cyfeirio ato yn mis Mawrth, 1818. Y mae rhywbeth yn arwyddocaol hefyd yn y ffaith i'r gŵr ieuanc pen—goch dynu sylw Mr. Howell; ac eto nid yw yn ymddangos i ddim ymddyddan gymeryd lle rhyngddynt y diwrnod hwnw. Y tebygrwydd yw i Mr. Evans frysio adref ar ol y gwasanaeth, i fod yn barod yn brydlawn at oedfa yr hwyr yn Nhonyrefail. Buasai yn naturiol iawn i Mr. Howell fyned gydag ef; eithr nid felly y bu, onite buasai Mr. Howell wedi crybwyll hyny. Gwnaeth enwi y sawl a'i harweiniodd o Glynogwr i'r Ddinas. Fe ddichon, modd bynag, fod rhywun arall wedi ei enwi i fyned o'r Ton i gyfarfod y pregethwr, neu ynte y mae yn bosibl fod Mr. Evans wedi addaw myned i Lanwyno neu Lantrisant y nos Sabboth hwnw.

Yn ychwanegol at yr adgofion uchod o eiddo Mr. David Howell, yr ydym yn cael i Mr. Evans ddechreu cadw cyfrif o'i deithiau a'i destynau yn Medi, 1818, ac hefyd ei fod o'r pryd hwnw at ei ryddid i bregethu trwy yr oll o sir Forganwg. Y mae felly yn ymddangos yn dra thebyg iddo gael ei dderbyn fel pregethwr, os nad hefyd yn aelod o'r Cyfarfod Misol, yn Awst neu Medi yn y flwyddyn hono. Nid ydym yn gwybod pwy fu dros y Cyfarfod Misol yn ymweled âg eglwys Tonyrefail i wneuthur ymholiad yn achos y gŵr ieuanc, ac i ymddyddan âg ef yn ngwydd yr eglwys; ni lwyddasom i gael dim o'r manylion hyn. Ond yr un rhai fu yn ei arholi yn y Cyfarfod Misol ag a fuasent yn arholi Mr. David Howell, o leiaf rhai o'r un personau; ac os oeddynt oll yn bresenol ar yr