Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achlysur, mae yn ddiameu iddynt gymeryd rhan yn yr arholiad.

Y mae hyn yn naturiol yn ein harwain i sefyll am ychydig i edrych ar Gyfarfod Misol a Methodistiaeth Morganwg fel ag yr ydoedd yn y cyfnod hwnw. Yn yr anerchiad yr ydym uchod wedi cyfeirio ato, a'r hwn a geir mewn penod ddilynol, dywedai Mr. David Howell "nad oedd ond pedwar o weinidogion ordeiniedig yn y sir, sef Howel Howells, Trehill, Hopkin Bevan, Richard James, a David Williams o Ferthyr," ar y pryd yr oedd efe a Mr. Evans yn dechreu pregethu. Gallasai ychwanegu un enw arall, sef eiddo Mr. Richard Thomas o Lysyfronydd, yr hwn a neillduwyd i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1817. Nifer y capelau yn y sir yr amser hwnw, yn ol Mr. David Howell, ydoedd 28 neu 29; a nifer y cymunwyr ychydig dros bedwar-cant-ar-ddeg. Cyffelyb ydoedd tystiolaeth Mr. Evans yn y geiriau a ddywedodd yn Nghymdeithasfa Ystrad Rhondda, Mawrth, 1877. "Pan yr oedd efe yn dechreu pregethu,” (yr ydym yn dyfynu o'r adroddiad yn y Goleuad am Mawrth 31ain, 1877,) "nid oedd ond 1400 0 Fethodistiaid yn y sir, a dim ond 28 o gapelau, a'r rhai hyny yn fychain ac yn gulion, ac heb orielau. Nid oedd y capelau bychain hyn yn cael eu llenwi ond pan ddelai y Parch. Ebenezer Morris a'i gyffelyb, os oedd ei gyffelyb i'w gael."

Gyda golwg ar y gweinidogion, bydd yr ychydig grybwyllion dilynol yn ddiameu yn dderbyniol gan y darllenydd. Yr oedd Mr. Howel Howells, Trehill, yn un o'r hen offeiriaid Methodistaidd. Ganesid ef yn y flwyddyn 1749; urddwyd ef yn 1782; a thra yn cydweithredu â'r Methodistiaid, daliodd ei gysylltiad â'r Eglwys Sefydledig hyd y flwyddyn 1818, pryd yr ymadawodd o'r llan, ac yr ymroddodd yn hollol i wasanaethu eglwysi a chynulleidfaoedd y Cyfundeb. Bu farw Ionawr 19eg, 1842, yn 92 mlwydd oed. Nid yw yn ymddangos fod Mr. Howells, Trehill, yn meddu doniau gweinidogaethol dysglaer, ond yr oedd yn ŵr o gymeriad crefyddol