Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amlwg, a dywedai Mr. Evans am dano ei fod "yn weddiwr mawr." Yr oedd Mr. Hopkin Bevan, Llangyfelach, yn ŵr o alluoedd naturiol cryfion, yn meddu barn dda, a chraffder mawr, ac yn arweinydd doeth a medrus. Yr ydoedd hefyd yn bregethwr rhagorol a chymeradwy. Efe oedd y cyntaf o bregethwyr y Methodistiaid yn Morganwg a ddewiswyd i'w ordeinio; a neillduwyd ef yn yr ordeiniad cyntaf yn y flwyddyn 1811. Ganwyd ef Mai 4ydd, 1765, a bu farw Rhag. 29ain, 1839, wedi bod yn pregethu am 47 o flynyddoedd. Edrychai pawb i fyny ato yn y Cyfarfod Misol. Yr oedd ei ddylanwad yn fawr, a'r parch a goleddid tuag ato yn gyffredinol. Fel hyn y dywedai Mr. Evans am dano: "Un galluog ofnadwy oedd efe; yr oedd yn ddwfn. Yr oedd Dafydd Williams o Ferthyr yn fwy ffraeth, ond nid yn fwy meddylgar. Dyn sound oedd Hopkin Bevan, ond slow; nid oedd y Cyfarfod Misol yn gyflawn hebddo—yr oedd yn frenin yn y lle. Yr oedd llygad main ganddo fe." Y nesaf i ddyfod dan ein sylw yw Mr. Richard James, Pontrhydyfen. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1759. Dechreuodd bregethu yn 1787; neillduwyd ef yn 1813, a bu farw Mawrth 27ain, 1841. Pregethwr hynod o doddedig ydoedd Mr. Richard James, ac yr oedd ei weinidogaeth yn dra effeithiol. Yr oedd yn cael rhai oedfeuon annghyffredin o hwylus. "Os na fyddai yn gwlitho calonau ei wrandawyr â'i ddoniau" (yr ydym yn adrodd geiriau Mr. Evans), "byddai yn gwlychu y ddalen o'i flaen â'i ddagrau. Yr oedd Richard James yn wastad yn flasus. Yr wyf yn cofio iddo gael dwy oedfa annghyffredin; un yn Nghastellnedd, pan yr oedd yn pregethu ar y siaced fraith wedi ei throchi mewn gwaed." Un arall o weinidogion Morganwg, pan y dechreuodd Mr. Evans bregethu, oedd Mr. David Williams, Merthyr Tydfil. Neillduwyd ef yn y flwyddyn 1813. Yr oedd yn bregethwr dawnus a galluog, ac yn rhagori fel duwinydd. Ei hoff awdwr oedd Dr. Owen, a chyfieithodd un neu ddau o'i weithiau i'r Gymraeg. Mewn canlyniad i annghydfod a gymerodd le yn Merthyr gadawodd Mr. David