Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams y Cyfundeb, ac ymunodd â'r Annibynwyr. Yn y Dyddiadur Methodistaidd am 1854 yr ydym yn cael y crybwylliad canlynol am Mr. Richard Thomas, Llysyfronydd:—"Bu yn pregethu am tua 50 mlynedd, ac ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1817. Yr oedd yn un o ddefnyddioldeb neillduol, ac yn flaenaf gyda'r achos mawr yn ei sir ei hun; ond ni ddarfu iddo trwy ei oes ymweled nemawr â siroedd ereill. Yr ydoedd o dymer hynaws a serchog fel dyn, yn dduwiol a phrofedig fel crefyddwr, ac yn berchen ar helaethrwydd mawr o ddoniau a medrusrwydd i gyflawni holl ranau ei swydd fel gweinidog yr efengyl. Bu farw Rhagfyr 23ain, 1852, yn 83 mlwydd oed." Yr oedd Mr. Richard Thomas yn un o foneddwyr natur—bob amser yn lân a thrwsiadus o ran ei berson allanol, ac yn enwedig yn ei flynyddoedd olaf, pan yn gwisgo y cap melfet du, yn barcbedig iawn yr olwg arno yn y pwlpud. Fel Mr. Hopkin Bevan, yr oedd yn ŵr o ddylanwad, ac a berchid gan bob dosbarth. Gallai bregethu yn y ddwy iaith; ac yr oedd yn bregethwr gwir sylweddol, buddiol, ac ymarferol. Ei ddull wrth lefaru ydoedd yr ymddyddanol. Ceir cyfeiriadau pellach, llawn o ddyddordeb, ato ef a'r lleill o'r tadau ag yr ydym yn awr wedi bod yn son am danynt, mewn ysgrif o waith y Parch. William Williams, Abertawy, a ymddangosodd yn y Drysorfa am mis Mai, 1861. Nid ydym yn cofio Mr. Evans yn son am Mr. David Williams a Mr. Richard Thomas fel y byddai am Mr. Hopkin Bevan a Mr. Richard James; ond yr ydym yn gwybod fod ganddo feddwl uchel, yn enwedig am Mr. Richard Thomas. Heblaw y gweinidogion a enwyd, yr oedd rhai pregethwyr yn perthyn i Gyfarfod Misol Morganwg ag y mae eu henwau yn deilwng o goffadwriaeth, megys Jenkin Harry, Dinaspowis; William Thomas, Aberddawen, wedi hyny o Gaerdydd; Edward Phillips, o'r Eglwysnewydd ; ac ereill. Hefyd yr oedd Mr. Rees Jones yn llafurio fel cenadwr cartrefol yn Mhenclawdd, yr hwn a neillduwyd yn 1818; a thua'r amser yma, neu yn fuan wedi hyny, daeth Mr. William Griffiths o sir Benfro i