Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymsefydlu yn Mrowyr; ond ni chafodd efe ei ordeinio hyd 1824, sef yr un pryd a Mr. David Howell a'r seraphaidd Mr. Morgan Howell. Dyma Gyfarfod Misol Morganwg, o ran ei brif bregethwyr, yn y flwyddyn 1818. Yr oedd yn perthyn. i'r Cyfarfod Misol amryw o flaenoriaid galluog hefyd, megys Mr. Bassett, y Cyfreithiwr, Llanilltyd fawr; Thomas Dafydd, Pencoed; Mr. Smith, Aberafon, ac ereill. Fe geir cyfeiriadau at rai o honynt mewn penodau dilynol. Yr ydym yn cael cipolwg ar Gyfarfod Misol Morganwg yn y cyfnod hwnw, eithr ychydig yn mhellach yn mlaen na'r flwyddyn 1818, yn yr ysgrif ganlynol o eiddo y diweddar Mr. David Roberts, Pontfaen. Yr ydym yn eì gosod i mewn fel yr ysgrifenwyd hi—mewn rhan yn Saesneg, ac mewn rhan yn Gymraeg. Y mae hefyd yn rhoddi manylion am Mr. Hopkin Bevan sydd yn ychwanegiad nid bychan at ei gwerth, ac yn cadarnhau cywirdeb y meddwl uchel oedd gan Mr. Evans am y gweinidog rhagorol hwnw.

"The first Monthly Meeting that I ever attended in Glamorganshire was in the year 1824. Hopkin Bevan was there, David Williams, Rd. James, R. Thomas, J. Harry, and John David. David Howell was in Radnorshire. W. Evans, a young man full of life. John James not even a member then; he came to the society about two years after, a ripe Christian, and a preacher all at once. Hopkin Bevan we considered the greatest man. You could say of him as Whitfield said of G. Jones, Llanddowror. 'I called to see the Rector of Llanddowror to—day,' said he; 'and what is your opinion of him?' 'Well,' he said, 'I saw a man to—day.' And Hopkin Bevan was a man. You could not be long in his company without being wiser and better. Hynod fond o gwmpeini dynion ieuainc—pregethwyr ieuainc yn enwedig. Arosai gyda chwi hyd dri-ar-ddeg o'r gloch, yn dyweyd, ac yn gwrandaw fel dyn bach. Hwyr yn mhob man a gyda phob peth oedd Hopkin Bevan; hwyr i gysgu, a hwyr yn codi. Mor hamddenol y gwelais ef lawer gwaith yn dyfod i'r oedfa