Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dri-chwarter-awr ar ol yr amser. Mor araf y cerddai risiau y pwlpud; wedi cyrhaedd y fan, gweddïai gryn dipyn yn ei het. Yna tynai ei gôt fawr ymaith oddi am dano, yn araf, cofiwch. Yna ail glymai yr handkerchief India oedd am ei ben; a thynai un arall allan o'i boced i sychu yr hen spectol, a'r bobl hwythau yn edrych: oblegyd o'r diwedd mae yn darllen penod—faith bid sicr. Gair, wyth llinell fynychaf, allan i'w ganu. Y weddi wedi'n—pwysig fyddai hono bob amser, hynod weithiau; gwyddai y ffordd at Dduw—ai â chwi gydag ef, ac erbyn gorphen, teimlech eich hunan gyda Duw. Gair allan i ganu eilwaith—byr fyddai hwn. Gwelwch fod awydd dyweyd wedi ymaflyd ynddo. Agorai y Beibl, a'i ddwylaw ar ei ddau ymyl. Ei destyn, Ioan iv. 22. Araf y darllenai; dechreuai gyda dechreu y benod. Dywed am y wraig, y Samariaid, yr Iuddewon, y ddwy deml oedd ganddynt yn ymyl, yr hen ragfarn oedd rhyngddynt. Wrth ei wrandaw gallech feddwl iddo fod yn siarad gan'waith â'r gwrthddrychau rheiny, a'i fod wedi bod yn preswylio rywle yn agos i Jerusalem am flynyddau. Atebion yr Iesu i'r wraig treuliai gryn fynydau y ffordd hon; ac o'r diwedd y testyn. Rhyw un idea fawr fyddai gan Hopkin Bevan, a throai o gylch hono. Fod dynion yn addoli y peth na wyddant, a'r angenrheidrwydd o adnabod Duw, rhag ein bod yn codi allor i'r Duw nid adwaenir. Weithiau byddai yn hynod o hapus, poethai yn raddol, troai y cadach Indianaidd tu cefn i'w glust, syrthiai hono yn ol ar ei wegil; ymddangosai yntau yn llawn bywyd—yn nerthol ei floedd ac yn dibenu; a chwithau dan yr argraff fod dyn uwch eich pen, a dyn a Duw yn ei arddel.

"Mawr yr amser y bu e' a hwythau yn adeiladu capel Llangyfelach. Rhyw dro gofynais iddo, 'Pa bryd yr ydych yn meddwl gorphen y capel?' 'O,' ebe yntau, 'gellir yn y diwedd ddyweyd am y capel hwn fel y dywedwyd am y deml gynt, "Chwe' blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y tŷ hwn.' Pa bryd y buoch chwi yno? canys y mae heb ei