Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

orphen hyd heddyw; ond nid yw y chwech-a-deugain ddim i fyny eto.

"Buom yn ei gladdedigaeth, ac yn cyflawni rhyw ran o'r gwasanaeth. Yr oedd y capel wedi ei orlenwi. Yr hen Dillwyn, yr Aelod Seneddol, yno, a'i fab o Penllergaer, ill dau yn teimlo—yr olaf a'r dagrau ar ei ruddiau. Ninau oll yn teimlo yn barod i lefaru, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i farchogion. Hopkin Bevan oedd ein Solomon ni. Gŵr o gynghor oedd e'. Llawenhaem dan ei gysgod e' fel tae gedrwydden gref. Ymadawsom â'i fedd dan ddyweyd yn ddystaw, Awn ninau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef. Take him all in all, we never saw his like.

"Carwn pe gallwn ddangos Hopkin Bevan i chwi mewn society Cyfarfod Misol. David Williams yn dyweyd gydag awdurdod; Richard James dipyn yn sûr a chrintachlyd; R. Thomas yn gall, yn fwynaidd, yn hawdd ganddo dybied ereill yn well nag efe ei hun; Hopkin Bevan yn codi i fyny, a'r cadach Indianaidd am ei ben, a phan y gwelwch ef yn troi hwnw y tu cefn i'w glust, gallwch benderfynu fod rhywbeth mwy na phowdwr yn y battery,—grân ar ei wyneb fod rhywbeth mwy yn bod na throad y wefus. Dechreuai ddyweyd ei feddwl a'i farn yn nghylch y peth dan sylw; a dyna bawb yn plygu, o David Williams i Jenkin Harry.”

Yn nesaf, ni a roddwn restr o gapelau Morganwg yn 1818, ac hyd y gallwn y flwyddyn yr adeiladwyd pob un o honynt.

Caerdydd, a adeiladwyd cyn 1805.
Eglwys Newydd a adeiladwyd yn 1808
Caerffili a adeiladwyd yn 1791
Ystradmynach yn 1812
Llanfabon yn nghylch 1800
Merthyr rhwng 1792 a 1796
Cefncoedcymer yn 1807
Aberdar yn 1806
Llanwyno yn 1786
Tonyrefail cyn 1791