Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llantrisant, yn 1775.
Bryntirion yn 1785.
Trehill yn 1785
Cadoxton yn 1815
Aberthyn yn 1749
Pencoed yn 1775
Penybont yn 1775
Pil yn 1786
Gyfylchi yn 1776
Castellnedd yn 1810
Graigfach, Llangynwyd, cyn 1800.
Creunant, yn 1800
Ystradgynlais yn 1804
Llansamlet yn 1782
Abertawy yn 1799
Goppa yn 1775
Llangyfelach yn 1808 (Agorwyd y
capel hwn gan y Parch. D. Jones, Llangan.)
Dinas Powys, yn 1785.
Treforris yn 1802.

Yr oedd pregethu mewn amryw o fanau ereill, lle wedi hyny y codwyd capelau ac y sefydlwyd eglwysi, megys Glynogwr, Dinas Rhondda, Ynysfach, Trelales, Llysyfronydd, St. Ffagan, Eweny, Aberddawen, Pendeulwyn, Pontypridd, a lleoedd ereill. Yn rhai o'r lleoedd pregethu hyn yr oedd eglwysi eisioes wedi eu ffurfio, ac ymgynullent i gadw y cyfarfodydd mewn ystafelloedd cyflogedig. Yr oedd ystafell felly yn Glynogwr, yn St. Ffagan, yn Aberddawen, ac yn Mhontypridd, ac yn ddiameu mewn rhai lleoedd ereill. Yn anffodus nid oedd Dyddiadur Methodistaidd yn cael ei gyhoeddi yr adeg hono, nac am flynyddoedd wedi hyny, yn dangos trefn y teithiau Sabbothol yn Morganwg ar y pryd; ond yn y cyfrif manwl a gadwodd Mr. Evans o'i lafur gweinidogaethol, yr ydym yn gweled pa fodd yr oedd efe yn teithio, ac yn ddiau yn cael yn agos yr hyn oedd trefn