Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyffredin y teithiau. Dyma ei deithiau Sabbothol ef yn y flwyddyn 1818 :—

Medi 27ain—Caerdydd, 10; Eglwys Newydd, 2; Caerffili, 6
Hydref 4ydd—Pil, 10; Penybont, 2; Pencoed, 6.
Hydref 11eg—Aberthyn, 10; Llysyfronydd, 2; Llanilltyd Fawr, 6.
Hydref 18fed—Ynysfach, 10; Gyfylchi, 2; Llety-bron-gu (tŷ fferm gerllaw Maesteg), 6.
Hydref 25ain—Cymar 10; Llanwyno, 2; Tonyrefail, 6.
Tachwedd 1af—Cadoxton, 10; Trehill, 2; St. Ffagan, 6.
Tachwedd 8fed—Eglwys Newydd—Cymanfa Ysgolion; Pentyrch, 6.
Tachwedd 15fed—Pontypridd, 10; Llanwyno, 2; Aberdar, 6.
Tachwedd 22ain—Dinas Powys, 10; Caerdydd, 2; St. Ffagan, 6.
Tachwedd 29ain—Glynogwr, 2; Tonyrefail, 6.
Rhagfyr 6ed—Pil, 10; Eweny, 2; Penybont, 6.
Rhag. 13eg—Glynogwr, 10; Llanharri, 2; Tonyrefail, 6.
Rhag. 20fed—Llanfabon, 10; Ystradmynach, 2; Caerffili, 6.
Rhag. 27ain—Bryntirion, 10; Llantrisant, 2; Pentyrch, 6.

Oddiwrth yr uchod gellir penderfynu gyda sicrwydd am rai o'r teithiau Sabbothol, megys Glynogwr, Dinas, a Thonyrefail; Llantrisant a'r Bryntirion; Caerdydd a'r Eglwys Newydd; Cadoxton, Trehil!, a St. Ffagan; Aberthyn, Llysyfronydd, a Llanilltyd; Penybont a Phencoed; Ynysfach a'r Gyfylchi; Llanfabon, Ystradmynach, a Chaerffili. Parhaodd rhai o'r teithiau hyn yr un fath am yn agos i haner can' mlynedd. Eithr erbyn hyn y mae y nifer luosocaf o'r lleoedd uchod wedi myned yn deithiau Sabbothol ar eu penau eu hunain, a'r hen gapelau "hirion, culion" wedi rhoi ffordd i adeiladau llawer eangach, harddach, a mwy cyfleus. Tarawodd William Evans, Tonyrefail, allan ar unwaith yn bregethwr poblogaidd. Yr oedd yn tynu pob dosbarth