Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w wrandaw, a llenwid y capelau lle bynag yr elai. Mewn cyfeiriad at ei boblogrwydd, dywedodd ei dad wrtho yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu,—"Edrych ati, Billi bach; mae genyt ti wrandawyr tost." Gair Isaac James, o'r Felin, ydoedd, "Fe fydd William Evans yn bregethwr annghyffredin, os na wnawn ni ei spwylo." Mae yn gyfiawn i goffadwriaeth y ddau flaenor duwiol a galluog i ddyweyd na ddarfu iddynt hwy, a'r cyfeillion ereill ar Donyrefail, spwylo eu pregethwr. Ni welwyd yr arwydd lleiaf o hyny arno dros ei holl fywyd. Pa mor ddyledus bynag ydoedd am hyny i ddoethineb ei dad, ac i dduwiolfrydedd a challineb Isaac James, y mae'r peth i'w gyfrif am dano yn fwy oblegyd y grefydd ddofn a gafodd yn ei argyhoeddiad a'i droedigaeth. O'r dechreuad gosododd yr argraff ar feddyliau pawb ei fod yn ddyn duwiol. Gwnaeth Mr. Ebenezer Richard y sylw wrth ei gymharu â gŵr oedd yn dechreu pregethu tua'r un amser—"Fe ddichon mai ——— yw y mwyaf doniol, ond William Evan yw y mwyaf duwiol." Daeth yn fuan yn adnabyddus fel pregethwr drwy yr holl sir, ac yr oedd galwad parhaus am ei wasanaeth; ac fe wnaeth yntau, heb ymgynghori dim â chig a gwaed, ymdaflu yn llwyr ac yn egnïol i'r gwaith ag yr oedd mor amlwg wedi ei alw iddo. Yr ydym eisioes wedi gweled ei lafur Sabbothol am y chwarter olaf o'r flwyddyn 1818. Ni chadwodd ddim cyfrif am y misoedd neu'r flwyddyn y bu ar brawf. Heblaw ei deithiau ar y Sabbothau, yr ydym yn cael ei fod yn pregethu yn fynych ar nosweithiau yr wythnos. Pregethodd yn Mhentyrch nos Lun, yr 28ain o Fedi, ar ol bod yn Nghaerdydd y Sul blaenorol. Pregethodd yn Nhrelales nos Sadwrn, y 3ydd o Hydref, ar ei ffordd i'r Pil erbyn y Sul dilynol. Ar y 10fed o'r un mis yr oedd yn pregethu yn y Prysc, gerllaw Pontfaen. Yr oedd hyny chwe' diwrnod wedi geni—yn y Westgate House, Pontfaen—y diweddar Mr. William Howells, Trefecca, yr hwn a arferai ddyweyd, ei fod yr un oed mewn dyddiau ag ydoedd Mr. Evans fel pregethwr; ac felly yn