Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyffelyb hyd ddiwedd y flwyddyn. Dydd Nadolig pregethodd gartref am 5 o'r gloch y bore; aeth i Bendeulwyn yn y Fro erbyn 2, ac oddiyno i St. Ffagan erbyn 6. Yr oedd yn pregethu ddwywaith dydd Sadwrn, y 26ain, sef yn Mhentyrch am 12, a'r Tynwaen (ty ei berthynas, Morgan David) am 7; a thair gwaith, fel y gwelwyd uchod, y Sul canlynol. Sylwer hefyd ar ei destunau yn y flwyddyn gyntaf hon o'i weinidogaeth. Esai. xlix. 9: "Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangos wch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchel fanau y bydd eu porfa hwynt." Col. i. 22, 23: "Yn nghorph ei gnawd ef trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd ger ei fron ef: os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sicrhau, ac heb eich symud oddiwrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd yn mysg pob creadur a'r sydd dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i Paul yn weinidog." Salm cxxxvi. 23: "Yr hwn yn ein hisel-radd a'n cofiodd ni; oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd." Joel ii. 32: "A bydd, yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd; canys bydd ymwared, fel y dywedodd yr Arglwydd, yn mynyddd Sïon, ac yn Jerusalem, ac yn y gweddillion a alwo yr Arglwydd." Salm cxix. 18: "Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di." Eph. i. 7: "Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ol cyfoeth ei ras ef." Mal. iii. 2: "Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a pan ymddangoso efe? canys y mae fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion." Matt. xxiv. 14: A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy yr holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genedloedd; ac yna y daw y diwedd." Salm xix. 14: 66 Bydded ymadroddion fy ngenau a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a'm prynwr." Luc v. 32: "Ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch." Salm vii. 12: "Oni ddychwel yr