Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

annuwiol, efe a hoga ei gleddyf; efe a anelodd ei fwa, ac a'i parotodd." Actau xiv. 15: "A dywedyd, Ha wyr, paham y gwnewch chwi y pethau hyn? dynion hefyd ydym ninau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt." Esaiah lxi. 1: "Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf; oblegyd yr Arglwydd a'm heneiniodd i efengylu i'r rhai llariaidd; efe a'm hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, ac agoriad carchar i'r rhai sydd yn rhwym." I Bren. xviii. 21: "Ac Elias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ol ef; ond os Baal, ewch ar ei ol yntau. A'r bobl nid atebasant iddo air." 1 Bren. viii. 17: " Ac yr oedd yn mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel." Eph. iv. 10: "Yr hwn a ddisgynodd, yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth." Dyma gyfres o destunau gogoneddus. Ac fe welir nad yw y pregethwr ieuanc yn ymfoddloni ar nifer fechan o bregethau; er nad oedd ond anfynych yn yr un manau, nac hyd yn nod yn ei gartref ei hun. Mae yn amlwg hefyd ei fod yn ymhoffi yn mrasder yr efengyl, a'i fod yn ymroddi i draethu cyflawnder ei darpariaeth ar gyfer byd o bechaduriaid colledig. Mae y pregethwr newydd o Donyrefail yn efengylwr. Eto canfyddir oddiwrth un neu ddau o'r testunau uchod fod rhyw gymaint o Sinai yn ei weinidogaeth. Ond fe ellir dyweyd am dano ef fel y dywedodd yntau am un o enwogion y pwlpud Cymreig, ei fod "yn taranu dan naws," hyny yw pan fyddai yn taranu. Yr ydym yn gweled, nid yn unig y wedd efengylaidd, ond hefyd yr elfen ymarferol a nodweddai ei bregethu, yn enwedig yn mlynyddoedd olaf ei weinidogaeth, yn ymddangos ar ei gychwyniad allan cyntaf. Ac y mae yn eglur hefyd ei fod yn amcanu yn ddifrifol, ac yn ymdrechu yn deg i enill ei wrandawyr i dderbyn yr efengyl,