Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac i gredu yn yr Arglwydd Iesu fel eu hunig Waredwr. Yr oedd â'i holl galon yn y gwaith mawr; ac wrth ystyried bywiogrwydd ei feddwl, pertrwydd ei ymadrodd, gwres ei ysbryd, a phereidd-dra ei lais, nid yw yn rhyfedd iddo ar unwaith enill lle uchel yn meddyliau y cynulleidfaoedd.

Bellach yr ydym yn gadael y flwyddyn 1818, ac ni a awn yn mlaen dan arweiniad y dydd-lyfrau a adawyd gan Mr. Evans, i roddi hanes ei yrfa hirfaith yn y weinidogaeth. Dechreuodd y flwyddyn 1819 yn egniol. Wedi pregethu am 12 dydd Sadwrn, yr 2il o Ionawr, yn y Fynachlog, gerllaw Castellnedd, ac yn Mhenrees am 6 yr un dydd, yr oedd yn y Gyfylchi am 10 bore Sul, y 3ydd, Penhydd am 2, a Lletybrongu am 6. Nos Fawrth, y 5ed, yr oedd yn pregethu yn yr Argoed, gerllaw Penllin; a dranoeth, y 6fed, yn Aberthyn am 10, Llanharri am 2, a Llanharan am 6. Y nos Sadwrn dilynol yr oedd yn Merthyr, a'r Sabboth, sef y 1ofed o Ionawr, Merthyr am 10, Cefn am 2, Aberdar am 6. Ar yr 17eg gwasanaethodd mewn Cymanfa Ysgolion yn Llantrisant, a phregethodd. Nos Sadwrn, y 23ain, cynaliodd oedfa yn Nhreoes, a'r Sul canlynol yr oedd yn Salem, Pencoed, am 10, yn Eweny am 2, ac yn yr Hen-gastell, Penybont, yn yr hwyr. Ar y 27ain yr oedd yn bresenol yn y "society fisol," yn Abertawy. Ar ei ffordd tuag yno, pregethodd yn Nyffryn Madog, ar y 26ain; ac wrth ddychwelyd, ar yr 28ain, pregethodd yn y Penhydd-lle ag y mae ei enw wedi ei anfarwoli mewn cysylltiad â choffadwriaeth y pregethwr a'r cymeriad hynod, Jenkin Thomas. Yn dra chyffelyb y bu llafur Mr. Evans dros yr oll o'r flwyddyn hono. Gwasanaethodd mewn naw o Gymanfaoedd Ysgolion, sef yn Llantrisant, ar yr 17eg o Ionawr; yn Mhontypridd, ar y 4ydd o Ebrill; yn Mhenybont, ar y 30ain o Fai; yn Nhonyrefail, ar y 6fed o Fehefin; yn Salem, Pencoed, ar y 25ain o Gorphenaf; yn Mryntirion, ar y 1af o Awst; yn Aberdar, ar y 29ain o'r un mis; yn Nghaerffili, Medi 5ed; ac yn Llantrisant, ar y 3ydd o Hydref. Yr oedd yn bresenol mewn deg Cyfarfod Misol,