Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

David Evans, Tonyrefail, am yr hwn y gwnaethom grybwylliad helaeth mewn penod flaenorol. Mae yn ymddangos i William Evans gael oedfa hwylus ac effeithiol; ac ar ol y cwrdd, dywedodd Thomas Dafydd wrth ei gyd-flaenor,— "Deio, Deio, dyna fi wedi dy guro di o ddigon." Yr oedd y blaenor o Bencoed yn cymeryd dawn rhagorach a phregeth fwy lewyrchus y pregethwr ag yr oedd efe yn gyfaill iddo, yn fuddugoliaeth iddo ei hunan; ac y mae yn ddiameu fod ei gyd-flaenor yn ddigon boddlawn i gael ei orchfygu yn y fath fodd. Nid oblegyd fod David Evans mewn un modd yn ffoli ar ei fab; ni bu tad erioed yn ddoethach nag yr oedd efe yn yr ystyr yma; ac eto yr oedd yn ddigon synwyrol a chraffus i werthfawrogi yn ddiolchgar y rhagoriaethau yn ei fab ag oeddynt yn ei wneuthur, dan fendith Duw, yn weinidog cymhwys y Testament Newydd; ac ar un achlysur, naill ai wedi ei wrandaw yn pregethu, neu ar ddiwedd cyfarfod eglwysig dedwydd dan ei arweiniad bywiog, clywyd ef yn dyweyd, "Ni feddyliais y cawswn y fraint o fagu y fath fachgen." Eithr i ddychwelyd at yr hanes: tra nad ydym yn sicr mai ar y daith gyntaf hon o eiddo Mr. Evans y dygwyddodd y cyfarfyddiad a grybwyllwyd, tueddir ni yn gryf i feddwl y rhaid i'r peth gymeryd lle ddim yn mhell o'r amser yr ydym yn awr yn cyfeirio ato. Ac nis gallwn fyned heibio heb sylwi fod yr hanes yn dangos pa mor naturiol a dyddan yr oedd yr hen bobl gyda'u gilydd.

Cynaliwyd Cymdeithasfa Caerffili ar y 25ain a'r 26ain o Fai, ac yno y derbyniwyd William Evans yn aelod o'r Gymdeithasfa. I ddefnyddio ei eiriau ef ei hun, "Gosododd Hopkin Bevan yr achos i lawr yn hyfryd." Wrth adrodd yr hanes, dywedai ei fod yn teimlo yn hynod wylaidd ac ofnus pan y galwyd ef yn mlaen i gael ei holi, ond calonogwyd ef gan eiriau caredig a chefnogol Mr. Ebenezer Morris.

Gyda golwg ar y ddwy Gymdeithasfa arall a enwyd ag y bu Mr. Evans ynddynt yn y flwyddyn 1819, ni wnaeth ond rhoddi dwy oedfa ar ei ffordd i Langeitho. Dyma'r cofnod-