Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad: "Awst 16, Neath, 6—Rhuf. iii. 14; 17, Pencoed (mae Pencoed yn ymyl Llandeilo, ar y ffordd i Lanfynydd, tua milldir o Landeilo, a theulu Methodistaidd oedd yn byw yno gynt) Carmarthenshire, 7 — Heb. ii. 3; 18, Llangeitho Association." Yn y Gymdeithasfa hono y neillduwyd Mr. Evan Jones, Casnewydd-ar-Wysg—tad ysbrydol William Evans, Tonyrefail. Rhoddwyd y Cynghor ar yr achlysur gan Mr. David Charles, Caerfyrddin. Mae yn debyg fod amryw o bethau yn ei dueddu i fyned yr holl ffordd o Donyrefail i Langeitho yn un-swydd i fod yn bresenol yn y Gymdeithasfa. Nid oedd erioed wedi gweled Llangeitho. Fe ddichon ei fod yn cael ei gymhell i fyned yn gydymaith i ryw weinidog neu flaenor perthynol i'w Gyfarfod Misol. Yr oedd hefyd yn ddigon naturiol iddo ddymuno gweled neillduad ei dad yn yr efengyl, Mr. Evan Jones. Ac yn arbenig yr oedd attyniad yn y Gymdeithasfa iddo fel cyfleusdra i wrandaw yr enwogion ag oeddynt yn pregethu ynddi. Am yr un rheswm, yn benaf, yr ydym yn ei gael drachefn yn Nghymdeithasfa Casnewydd, ar y 18fed a'r 19eg o Hydref. Yr oedd swyn annesgrifiadwy mewn pregethu da iddo ef, ac yr oedd yntau yn graffus i sylwi ac yn gyflym ei feddwl i gymeryd i fyny nodweddion dull yr hen weinidogion, ag oeddynt yr adeg hono ar y maes, o bregethu. Y Gymdeithasfa i raddau mawr, os nad yn unig, fu ei athrofa ef. Nis gellid dyweyd fod Cyfarfod Misol Morganwg hyd hyny yn meddu yr un o bregethwyr blaenaf y Cyfundeb. Eithr yn y Gymdeithasfa, fel rheol, byddai Mr. Ebenezer Morris, y ddau Mr. Richard, Mr. Charles, Caerfyrddin, ac ereill o'r un dosbarth, yn bresenol; ac yr oedd eu gwrandaw yn wers i bregethwr ieuanc mewn gwirionedd yn y gelfyddyd sanctaidd o gyhoeddi efengyl Crist.

Y Sul a'r Llun ar ol Cymdeithasfa Casnewydd, sef y 24ain a'r 25ain o Hydref, 1819, yr oedd yn bresenol ac yn cymeryd rhan yn agoriad “tŷ cwrdd Glynogwr." Pregethodd am 2 y Sabboth oddiar Actau xxvi. 18. Yr oedd yr achos yn y lle hwn hyd yma yn cael ei gynal mewn ystafell uwchben yr