Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer iawn o droion yn Llety-bron-gu. Yn 1819 yr ydym yn ei gael yn cadw oedfa yn y Brynmelyn, amaethdŷ yn sefyll tua haner y ffordd rhwng Pentyrch a St. Ffagan, ac amryw droion wedi hyny. Ar y 3ydd o Awst, 1821, agorwyd ty cwrdd yn yr ardal ar ochr y Fforddlâs, ac yr oedd Mr. Evans yn pregethu am 2 o'r gloch oddiar Gen. xlix. 10. Yn mhen tuag ugain mlynedd symudwyd yr achos o'r Fforddlås i Dreforgan, lle y codwyd capel helaethach, yr hwn a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac sydd yn awr yn adeilad prydferth a chyfleus, gyda mynwent helaeth o'i flaen, yn yr hon y gorwedda gweddillion yr hen bregethwr twymgalon Edward Phillips, a'r henadur duwiolfrydig William Hugh o'r Goetre. Yn 1820, sef ar y 19eg o Fai, yr oedd Mr. Evans yn pregethu yn Gelli Ystradyfodwg, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn bu yn Nghwm Rhondda; ac ar Sabboth y 7fed o Ionawr, 1821, wedi pregethu yn Llanwyno am 10, yr oedd yn Gelli Ystrad am 2, ac yn "Cwmseibra " (Cwmsaerbren ?) am 6. Yr oedd y lle olaf hwn yn ymyl y man y mae gorsaf y rheilffordd Treherbert yn sefyll. Yr oedd hyn tua dengmlynedd-ar-ugain cyn bod nac achos na chapel Methodistaidd. yn Nghwm Rhondda, gyda'r unig eithriad o'r Ddinas. Yn yr un flwyddyn, sef 1821, mae enw Maesyfelin yn ymddangos am y tro cyntaf, lle y cynaliwyd pregethu ac Ysgol Sabbothol yn flaenorol i sefydliad yr achos yn Mrynsadler, ac y codwyd yno gapel yn 1829. Yn 1822 yr ydym yn cyfarfod am y tro cyntaf â'r enwau Tregolwyn, Llandaf—lle y pregethodd Mr. Evans yn nhŷ un William Llewelyn,Brychtwn, Llancadle, gerllaw Penmarc, a Canton, Caerdydd; manau ag y mae capelau ynddynt bellach er ys llawer o flynyddoedd. Yr enwau lleoedd newydd yn y coflyfr am 1823 ydynt Hirwaen, Waenfo, a Thresimwn; ac ar y 3ydd a'r 4ydd o Ionawr, 1825, fe agorwyd tŷ cwrdd Hirwaen. Am 10, yr ail ddydd, pregethodd Mr. Richard Thomas a Mr. David Williams; am 2, Mr. William Evans oddiar Mat. v. 4, a Mr. John Bowen. Heblaw yr engreifftiau o gapelau