Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newyddion a grybwyllwyd, ag y bu Mr. Evans yn bresenol yn eu hagoriad, yr ydym yn ei gael yn cymeryd rhan yn agoriad un o'r hen gapelau wedi ei helaethu, sef yn Merthyr ar y 15fed a'r 16eg o Dachwedd, 1821. Pregethodd yno am 2 yr ail ddiwrnod gyda Mr. Charles; yr oedd Mr. Charles a H. Jones wedi llefaru y nos gyntaf, ac Ed. Jones a Wm. Morgans am 10. Crybwylla Mr. Evans hefyd am agoriad "ty cwrdd Ystradgynlais" ar y 7fed a'r 8fed o Ebrill, 1824. Nid yw yn ymddangos ei fod ef yn bresenol ar yr achlysur hwnw; eithr os ydoedd, ni chymerodd ddim rhan yn y pregethu. Yr ydym yn cael ein tueddu i osod i mewn yn y man hwn hanes agoriad capel cyntaf Llanilltyd Fawr, yr hwn a ddanfonwyd i ni gan un o flaenoriaid y lle hwnw. Cyn agoriad y capel yr oedd y cyfarfodydd yn cael eu cynal yn yr adeilad sydd yn awr yn cael ei ddefnyddio fel Ysgol y Bwrdd : pa un a ystyrid yr adeilad hwnw yn gapel nid ydym yn hollol sicr; gallwn feddwl yn amgen, yn enwedig gan y cedwid y moddion wythnosol yn aml yn Ivy House, preswylfod Mr. Bassett, y cyfreithiwr, ac am flynyddoedd Ysgrifenydd Cyfarfod Misol Morganwg; modd bynag yr ydym wedi gadael allan Llanilltyd Fawr o restr y lleoedd ag yr oedd capelau ynddynt yn 1818, sef y flwyddyn y dechreuodd Mr. William Evans bregethu. Agorwyd capel Llanilltyd Fawr ar y 1af a'r 2il o Ionawr, 1823. Y nos gyntaf pregethodd Mr. D. Williams, Merthyr, oddiar Rhuf. i. 16, a Mr. Thomas Jones, Llanpumsaint, oddiar Act. xxvi. 18; yr ail ddydd am 10, Mr. D. Charles, Caerfyrddin, Ioan viii. 12, a Mr. T. Jones, Matt. xvii. 12; am 2, Mr. Morris Davies a Mr. D. Charles, 1 Petr v. Io; ac am 6, Mr. Benjamin Williams, Salm xciii. 5, a Mr. John Williams, Abertawy, 2 Cor. viii. 9. Yr ydym wedi cael ein hysbysu hefyd yr agorwyd capel St. Brid yn nghylch y flwyddyn 1820, a'r Ynysfach yn 1821. Eithr heb ymhelaethu yn mhellach yn y dull hwn, mae y crybwylliadau yr ydym yn awr wedi eu gwneuthur yn dangos yn eglur fod yr hanes sydd genym am