Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lafur gweinidogaethol Mr. Evans yn gymhorth nid bychan i olrhain cynydd eglwysi y Methodistiaid Calfinaidd yn Sir Forganwg.

Yn y flwyddyn 1820 teithiodd Mr. Evans 1829 o filldiroedd, a phregethodd 203 o weithiau; yn 1821, teithiodd 1956 o filldiroedd, a thraddododd 257 o bregethau; yn 1822, pregethodd 336 o weithiau-nid yw yn rhoddi nifer y milldiroedd a deithiodd y flwyddyn hon; nid yw ychwaith yn gosod i lawr ar ol hyny y niferi hyn ar ddiwedd pob blwyddyn. Ond gallwn ychwanegu iddo bregethu yn gyffelyb yr un nifer o weithiau yn 1823 a 1824 ag a wnaethai ar gyfartaledd y ddwy flynedd flaenorol; ond yn 1825 yr oedd y nifer yn ddim llai na phedwar cant ac un. I egluro yn mhellach ei ymroddiad mawr i'r gwaith, sylwer ar ychydig o'i deithiau Sabbothol yn y blynyddoedd yn awr dan ein sylw. Ar yr 16eg o Ionawr, 1820, yr oedd yn Glynogwr am 10, Tonyrefail am 2, Pontypridd am 6; ar y 26ain o Chwefror, Penybont am 10, Pencoed am 2, Tonyrefail am 6; ar yr 28ain o Fai, Llantrisant am 10, Llanharri am 2, Tonyrefail am 6; Hydref y 29ain, Ystradmynach am 9, Llanfabon am 2, Llanwyno am 6; Tachwedd y 19eg, Gyfylchi am 10, Dyffryn am 2, Llety-bron-gu am 6; Ionawr 14eg, 1821, St. Ffagan am 10, Dinas Powys am 2, Trehill am 6; Mai y 13eg, Aberdar am 9, Llanwyno am 2, Pontypridd am 6; Hydref 7fed, Penllin am 10, Llanharri am 2, Pencoed am 6; Ionawr 6fed, 1822, St. Brid am 10, Pencoed am 2, Tonyrefail am 6; Mehefin 9fed, Brychtwn am 9, St. Brid am 2, Pencoed am 6; Chwefror 29ain, 1824, Penclawdd am 10, Goppa am 3, Llangyfelach am 6; Mai 16eg, Pontypridd am 9, Ystradmynach am 2, Caerffili am 6. Afreidiol yw ychwanegu esiamplau. Fel y cydnabyddir gan y rhai sydd yn gwybod daearyddiaeth Morganwg, yr oedd cyflenwi y teithiau uchod, gyda phregethu dair gwaith, yn galed-waith, os nad yn orchest-waith, mewn gwirionedd.

Gyda chyflawni ei ymrwymiadau ar y Sabbothau, a