Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chynal oedfeuon yn aml ar ddyddiau yr wythnos, a gwasanaethu mewn angladdau, yr ydym yn cael Mr. Evans yn dilyn y Cyfarfod Misol yn mron yn ddifwlch. Pregethodd yn Nghyfarfod Misol Dyffryn, Medi yr 20fed, 1820; a thrachefn yn Llansamlet, ar yr 11eg o Hydref. Bu hefyd yn Nghymdeithasfa Talgarth, y 25ain a'r 26ain o Fai; ac yn Nghymdeithasfa Llandeilo ar y 5ed a'r 6fed o Gorphenaf, gan roddi ychydig oedfeuon wrth fyned a dychwelyd. Yr oedd yn pregethu y nos gyntaf yn Nghyfarfod Misol Abertawy, Chwefror yr 21ain, 1821; a'r ail foreu yn Nghyfarfod Misol Ynysfach, y 14eg o Fehefin; a thrachefn y nos gyntaf yn Nghyfarfod Misol Llansamlet, y 1ofed o Hydref; ac wedi hyny yr ail foreu yn y Dyffryn, ar y 7fed o Dachwedd. Yr unig Gymdeithasfa y bu ynddi yn 1821 ydoedd yr hon a gynelid yn Nghaerfyrddin ar yr 11eg a'r 12fed o Gorphenaf. Yn mis Rhagfyr o'r flwyddyn hon rhoddodd bythefnos o daith trwy sir Frycheiniog.

Ar y 26ain o Ionawr, 1822, y bu farw ei fam; a dyma y cofnodiad a ysgrifenwyd ganddo ef :-"E. E. yn marw haner awr wedi chwech o'r gloch. Richard Thomas a bregethodd yn yr angladd oddiwrth 13 adnod o'r 3ydd benod 1 Petr, a darllenodd y 14eg o Job. Y gair cyntaf a ganwyd oedd, 'Gwyn fyd y rhai dileaist eu bai.' Yr ail air ar ol y bregeth oedd, ‘Dyma babell y cyfarfod, dyma gymod yn y gwaed,' &c. Y 3ydd gair wrth godi pen yr elor, 'Ffarwel i chwi gynt a gerais,' &c. Ac yn y llan, y gair diweddaf, 'Y mae fy mrodyr wedi blaenu, draw yn lluoedd o fy mlaen,' &c." Yn ystod y flwyddyn hon bu Mr. Evans yn pregethu mewn dau Gyfarfod Misol perthynol i siroedd ereill, sef yn Mhencae, sir Fynwy, ar y 1ofed o Gorphenaf, ac yn y Bettws, sir Gaerfyrddin, ar y 18fed o Hydref. Yr oedd yn bresenol yn Nghymdeithasfa Llangadog, ar y 26ain a'r 27ain o Fehefin; a thrachefn yn Llangeitho y 7fed a'r 8fed o Awst, a gwnaeth daith fechan mewn cysylltiad â'r naill a'r llall. Yn mis Tachwedd gwnaeth Mr. Evans daith fanwl trwy sir Aberteifi, a thrwy ranau o sir Gaerfyrddin.