Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nghyfarfod Misol Fforddlas, ar y 3ydd a'r 4ydd o Dachwedd, yr ydym yn cael oedfa am 2 yr ail ddiwrnod, a Mr. Evans yn pregethu ynddi. Aeth Mr. Evans o'r Fforddlas erbyn yr hwyr i Gaerdydd, a dranoeth i Laneurwg a'r Casnewydd, a'r dydd canlynol yn groes i'r culfor i fyned i Bristol, lle yr arosodd dros bedwar Sabboth i wasanaethu yr achos Cymraeg yn Broadmead. Gwnaeth y cyfeillion yno ddefnydd da o hono, canys fe gafodd bregethu dair gwaith bob Sabboth, a dwy waith heblaw hyny bob wythnos; yn wir un wythnos pregethodd dair gwaith; ac felly yn ystod yr amser y bu yno traddododd ddim llai na phedair-ar-bymtheg o bregethau. Dychwelodd o Bristol y tro hwn dydd Llun, y 29ain o Dachwedd, a phregethodd yn Nghaerdydd y noswaith hono, ac aeth adref ar ei union y dydd canlynol.

Ar y 1af a'r 2il o Ragfyr yr oedd Cyfarfod Misol Morganwg yn cael ei gynal yn y Dyffryn (Taibach), ac yr oedd Mr. Evans yno ac yn pregethu yr ail fore. Ar y Sabboth dilynol, y 5ed, yr oedd yn Llantrisant am 2, a'r Ton am 6; ar y 12fed, yn Llanfabon am 10, Bedlinog 2, a Gelligaer 6; ar y 19eg, ar ol cadw oedfa yn y Prysc, nos Sadwin, y 18fed, yn yr Aberthyn am 10, Llysyfronydd 2, a Llanilltyd Fawr 6. Pregethodd yn y Ty-fry nos Wener, y 24ain, a dydd Nadolig yn y Clawddcoch (Pendeulwyn) am 5 y boreu, Llantrisant 10, Salem, Pencoed, 2, a St. Brid 7; yna ar y Sul dilynol yr oedd yn Mhenybont am 10, Trelales 2, a'r Pil y nos. Dydd Llun, y 27ain, aeth i Lansamlet erbyn yr hwyr, yr oedd yn Nhreforris, nos Fawrth yr 28ain; ac wedi cael cyfran o'r Gymdeithasfa a gynelid yn Abertawy ar yr 28ain ar 29ain, dychwelodd i Benrees nos Fercher y 29ain. Dydd Iau, y 30ain, pregethodd yn Llangynwyd am 2, ac yn y Lletybron-gu am 7. Oddiyno aeth i Gyfarfod Misol y Pil dydd Gwener yr 31ain; pryd yr oedd yn bresenol, D. Bowen, Wm. Havard, D. Griffiths, a Mr. Charles. Fel yma y mae Mr. Evans yn gosod i lawr yr enwau, a gallwn ychwanegu hefyd iddo roddi i lawr y testynau. Sylwer mai o flaen yr