Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olaf yn unig y dodir y llythyrenau "Mr."; nid oddiar y graddau lleiaf o anmharch at y lleill, ond y mae yn ddangosiad o'r parchedigaeth dwfn a deimlai Mr. Evans tuag at y gweinidog enwog a galluog o Gaerfyrddin. Yr un modd yn y cofnodiad a wnaeth o'r rhai fu yn pregethu yn Nghymdeithasfa Penybont yn nechreu y flwyddyn, dim ond o flaen enw John Evans, Llwynffortun, y ceir "Mr.," er fod y ddau frawd Richard ac ereill o enwogion y Cyfundeb yn bresenol. Ni a gawn yr un gwahaniaethiad yn nghofnodau yr Hen Gymdeithasfaoedd gan Mr. Ebenezer Richard. Yr oedd i Mr. D. Charles a Mr. John Evans le neillduol yn mharch eu holl gydoeswyr, eithr nid oedd neb yn teimlo yn fwy parchus tuag atynt nac yn synied yn uwch am danynt na William Evans, Tonyrefail.