Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mrs. Davies;" sef y ddau hynaf, David a Margaret―y naill yn 8 a'r llall yn 5 mlwydd oed. Yr oedd Mrs. Davies yn ferch i Mr. a Mrs. Prichard, Collena, ac yn cadw ysgol yn mhentref Tonyrefail. Nos Sadwrn, yr 22ain, yr oedd Mr. Evans yn pregethu yn Margam; a'r Sabboth, y 23ain, yn y Dyffryn y bore, Aberafon y prydnawn, ac yn Mhenrees yr hwyr. Nos Fawrth, y 25ain, yr oedd yn cadw oedfa yn y Croffta-cartref ei chwaer Susannah, Mrs. Morgan. Y ddau ddiwrnod canlynol yr oedd Cyfarfod Misol y sir yn cael ei gynal yn Merthyr, ac yr oedd efe yn pregethu y nos gyntaf gyda Mr. Rees Jones. Nos Sadwrn, y 29ain, yr oedd yn y Prysc, gerllaw Pontfaen; a'r Sul, y 30ain, yn nhaith Aberthyn, Llysyfronydd, a Llanilltyd Fawr; a dydd Llun, yr 31ain, yn Aberddawen am 12, ac yn Nolton yn yr hwyr. Yn lled gyffelyb oedd ei lafur yn mis Chwefror. Ar y 6ed o Fawrth, ar ol bod yn y Cefn y nos o'r blaen, yr oedd yn Merthyr y bore a'r hwyr, ac yn Nowlais y prydnawn. Yna aeth rhagblaen i Defynog a Threcastell dydd Llun, y 7fed; i Lanymddyfri a Llambedr-Pont-Stephan dydd Mawrth, yr 8fed; ac yna, dydd Mercher y 9fed, yr oedd yn Llangeitho am 10, Pennal am ddau, a Lledrod y nos. Y dyddiau dilynol, sef y Iofed a'r IIeg, yr oedd Cymdeithasfa yn Aberystwyth. Yn "Hen Gofnodau Cymdeithasfaoedd y Deheudir," a gyhoeddwyd yn y Drysorfa am 1869, yr ydym yn cael fod trefn y moddion cyhoeddus yn y Gymdeithasfa hono fel y canlyn:"Am 3, y 1ofed, gweddiodd Robert Davies, a phregethodd Morgan Howells a H. Gwalchmai. Am 7, yr 11еg, pregethodd Moses Jones a Thomas Jones. Am 10, gweddiodd Ishmael Jones, a phregethodd Robert Griffiths a T. Richard. Am 2, gweddiodd D. Howell, a phregethodd J. Hughes a Mr. J. Evans. Am 6, gweddiodd Richard Williams. a phregethodd W. Evans a R. Davies." A dyma y tro cyntaf i Mr. William Evans bregethu mewn Cymdeithasfa. Ei destyn ydoedd 1 Pedr iv. 18: “Ac os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?"