Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn fyw hyd yn ddiweddar rai yn Aberystwyth ag oeddynt yn cofio y Gymdeithasfa hono, a dywedent i Mr. Evans gael oedfa rymus. Yr oedd wedi pregethu amryw droion ar y testyn cyn y Gymdeithasfa, a phregethodd arno lawer o weithiau ar ol hyny; ond nis gellir dyweyd ei fod yn un o'i hoff destynau, megys er esiampl, Job xxxiii. 24: "Yna efe a drugarha, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn o hono i'r clawdd; myfi a gefais iawn." Ac i brofi hyny yn mhellach, nid yw yn mhlith y testynau y dychwelodd atynt yn mlynyddoedd diweddaraf ei weinidogaeth. Ond y mae yn sicr iddo wneuthur defnydd effeithiol o'r testyn tuag at droi yr annuwiol a'r pechadur o gyfeiliorni ei ffordd at Fab Duw.

Ar ol Cymdeithasfa Aberystwyth dychwelodd Mr. Evans ar hyd glanau sir Aberteifi, trwy Lanon, Pennant, Aberaeron, Ffosyffin, Ceinewydd, Llanarth, Twrgwyn, Blaenanerch, i lawr hyd at dref Aberteifi. Yr oedd yn Nhwrgwyn ar y 15fed o Fawrth, a buasai yn dda ganddo gael ychydig o gymdeithas ei arwr mawr a'i hoff bregethwr, ond yr oedd Mr. Ebenezer Morris ar y pryd yn gwasanaethu yr achos Cymraeg yn Llundain. Aeth Mr. Evans yn mlaen gan bregethu am ychydig ddyddiau yn sir Gaerfyrddin. Gorphenodd y daith hon dydd Mawrth, yr 22ain, yn Nhreforris am 10, Llansamlet am 2, ac yn Nghastellnedd yn yr hwyr. Y dyddiau dilynol yr oeddid yn "agor tŷ cwrdd Llantrisant," sef y capel presenol yn y dref hono. Nid oedd Mr. Evans yn cymeryd rhan yn y pregethu ar yr achlysur, ond y mae yn ddiameu ei fod yn bresenol yn rhai o'r oedfeuon.

Ar y dyddiau olaf o fis Mawrth yr oedd Cymdeithasfa drachefn yn cael ei chynal yn Mhontypool, swydd Fynwy. Hon ydoedd Cymdeithasfa Chwarterol gyntaf y flwyddyn; un achlysurol ydoedd y Gymdeithasfa flaenorol yn Aberystwyth. Mae yn ymddangos fod y cynrychiolwyr yn cyfarfod yn y bore y dydd cyntaf, yn Mhontypool. Am 2 o'r gloch, yn nghyfarfod cyffredinol y Gymdeithasfa, dan lywyddiaeth