Mr. David Charles, Caerfyrddin, "Adroddwyd penderfyniad y cynrychiolwyr, sef fod W. Evans, Tonyrefail, i gael ei neillduo Awst nesaf." Nid ydym yn gwbl sicr a oedd efe ei hun yn y Gymdeithasfa hono. Gellid meddwl ei fod wedi golygu myned yno, a phregethu yn y Gelligroes wrth fyned, ac yn Nantyglo wrth ddychwelyd; eithr ni fu yn y naill le na'r llall. Y tebygrwydd yw nad aeth i'r Gymdeithasfa, gan ei fod newydd ddychwelyd o'r daith uchod, a'i fod yn parotoi i fyned i daith arall yn mhen ychydig wythnosau ar ol hyny.
Ei deithiau Sabbothol yn Ebrill oeddynt,—ar y 3ydd, Pendeulwyn, Trehill, a St. Ffagan; ar y 1ofed, Pontypridd am 10, Llanwyno am 2, a Glynogwr am 6; ar yr 17eg, Fforddlas yn y bore, ac yn Nghaerdydd yr hwyr; ar y 24ain, Tredegar am 10, Rhymni am 2, a Llanfabon am 6. Y mae rhai o'r teithiau hyn-ac efe a wnaeth luaws o rai cyffelyb, megys ag yr ydym eisioes mewn rhan wedi gweled—yn dangos ei fod mewn gwirionedd "yn ehedeg, a'r efengyl dragywyddol ganddo."
Ac yn awr yr ydym yn dyfod at ei daith fawr trwy Ogledd Cymru. Dechreuodd y daith ar y 5ed o Fai, a gorphenodd ar y 26ain o Fehefin. Yr ydym yn dodi i fewn y daith ar ei hyd, ac yn y ffurf y cofnodwyd hi gan Mr. Evans, yn un peth fel engraifft o'i daclusrwydd a'i fanylder; a thybiwn na fydd yn annerbyniol gan lawer yn yr oes bresenol i weled esiampl gyflawn o ddull yr hen bregethwyr yn teithio i efengylu i'w cydwladwyr anchwiliadwy olud Crist. Ac od oes rhai (nis gall y nifer fod yn fawr) yn cofio mor bell yn ol a'r flwyddyn yr ydym yn awr arni, fe ddichon y bydd golwg ar y daith a'r testynau yn dwyn adgofion melus iddynt. Dylem ychwanegu hefyd fod y daith fawr hon yn ddangosiad teg o lwyrymroddiad gwrthddrych y Cofiant hwn i'r gwaith mawr o bregethu yr efengyl.
Mai, 1825. 5 Salm 89.14. Llety-bron-gu, 6 .