Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olynol, ond nid yw yn cyhoeddi gymaint ag un o'r gwynfydau heb ddangos i bwy y mae yn perthyn. Ac nid yw yn aros ar ddywedyd fod y rhai hyny yn wynfydedig heb roddi rheswm dros hyny. Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd,' neu, Gwyn eu byd y cardotwyr ysbrydol. Ie, er truaned eu golwg, mae y rhai hyny gan Dduw a Christ, yn dywysogion a breninoedd; canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.' Ac yna daw y testyn, lle y cawn yr hysbysiad Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru,' ac yn reswm am hyny, 'canys hwy a ddyddenir.'

"Sylwn i ddechreu, am y nodiad hwn am bobl dduwiol: 'y rhai sydd yn galaru.'

"Peth hanfodol i wir grefydd yw'r galar hwn, y tristwch duwiol sydd yn perthyn i edifeirwch efengylaidd, y galar y mae'r gwir ddyddanwch yn ei ganlyn. Nid pob math o alarwyr sydd â theitl ganddynt i'r dyddanwch. Y mae galar bydol, galar deddfol, galar cnawdol, galar pechadurus. Yr oedd Ammon yn galaru mor fawr nes iddo glafychu, a'i fod yn curio beunydd; ond er iddo ef, trwy gyfrwysdra Jonadab, gael gafael ar yr hyn a ddymunai, ni chafodd efe afael ar y gwynfyd a'r dyddanwch. Yr oedd Ahab yn galaru am winllan Naboth nes yr aeth i orwedd i'w wely, ac ni fwytai fara. Efe a gafodd y winllan; ond y gwae, ac nid y gwynfyd, a gafodd o'r herwydd.

"Beth yw achos neu wrthddrych y galar a nodir yma? Yr ateb ydyw, Pechod: pechod fel y mae yn taraw yn erbyn Duw y daioni penaf, ac fel y mae yn dinystrio yr enaid-ein trysor gwerthfawrocaf. Dyma ddrwg y drygau. Beth a drodd dyn a wnaed ar ddelw Duw i fod yn felldigedig? Pechod. Beth oedd yr achos o foddi'r byd? Pechod. Beth a ddyg y llosgiad ar Sodom a Gommorah ? Pechod. Beth sydd yn cynyrchu yr holl aflwydd a'r helbul ar y ddaear? Pechod. Beth sy'n peri'r sŵn a'r dyfnder tanllyd yr ochr draw, Fe'm poenir yn y fflam hon'? Pechod. Paham y clwyfwyd ac y drylliwyd y Sanct a'r Cyfiawn oedd heb ddim