Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pechod ynddo? Am fod pechod yn gyfrifedig arno. Mae pechod y fath wrthddrych ag y rhaid galaru am dano, naill ai mewn amser neu yn nhragywyddoldeb—yn y byd hwn neu ynte yn yr hwn a ddaw. Y rhai a argyhoeddwyd o bechod, ac ydynt yn adwaen pla eu calonau eu hunain, nis gallant yn yr olwg ond galaru ac ymofidio.

"Beth yw natur neu ansawdd y galar hwn?

"Y mae yn alar gwirfoddol. Ac yn hyn y mae neillduolrwydd. Nid oes alar yn y nefoedd; maent yno wedi goddiweddyd llawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar wedi ffoi ymaith. Y mae galar yn uffern; ac yno y bydd wylofain byth; ond y boen a'r felldith sydd yn eu gorfodi i alaru. Ond galar yn dyfod yn rhwydd ac o wirfodd yw yr eiddo galarwyr Seion. Nid fel tân yn dyfod o'r gareg gallestr wrth ei tharo, ond fel y dwfr yn rhedeg o'r ffynon, neu fel y myrr yn defnynu yn naturiol. Wrth gael y drwg yn trigo ynddynt y pechod sydd yn erbyn Duw a Thad mor dda, nis gall duwiolion beidio galaru.

"Mae yn alar ysprydol; galar am bechod fel pechod, ac nid yn gymaint am y gosb sydd yn dilyn pechod; galaru oherwydd yr uffern sydd mewn pechod yn fwy nag am yr uffern sydd yn canlyn ar ol pechod. Yr oedd Pharaoh yn galaru am y plaau, ond nid am bechod, pla'i galon. Nid felly yr oedd Dafydd: 'Fy mhechod sydd yn wastad ger fy mron.'

"Galar ydyw sydd yn gweithio yr enaid at Dduw. Aeth galar Cain dan ei anwiredd ag ef oddiwrth yr Arglwydd i dir Nod; a galar Judas am fradychu y gwaed gwerthfawrocaf erioed a'i gyrodd yntau i'r crogbren. Ond Pedr, wedi wylo yn chwerw-dost am y gwadu, a gafwyd yn fuan yn nghwmni yr Iesu byw, ac yn cadarnhau ei frodyr. Pan ddaeth y mab afradlon ato ei hun, ei iaith ydoedd,—'Mi a godaf, ac a âf at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais.' Ac fe drowyd ei alar yn llawenydd, gan i'w dad redeg i'w gyfarfod, a'i dderbyn gyda'r croesaw mwyaf. Mae ein Duw ni yn