Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

crefyddol Eglwys Gristionogol a llwyddiant gweinidogaeth y cyfryw sydd yn gweinidogaethu yn eu plith.' Ymdriniodd â'r pwnc yn y drefn ganlynol:—"I. Dangos fod y gosodiad hwn yn osodiad rhesymol a phwysig. Mae rheswm yn canmol cydymdeimlad a chydweithrediad yn yr hyn sydd dda. Hefyd, mae yn bwysig, o herwydd mai gogoniant Duw ac achubiaeth eneidiau sydd mewn golwg yn y cysylltiad gweinidogaethol. Ymddengys ei bwysigrwydd, os craffwn ychydig ar y pethau canlynol:

"1. Oddiwrth ymarferiadau cyffredin ac adnabyddus i ni.

"2. Mae moesol deimladau gweision Crist yn dangos ei bwys.

"3. Mae hanesyddiaeth yn cadarnhau pwys y gosodiad.

"4. Dywediadau pendant yr Arglwydd Iesu a ddangosant bwys y gosodiad, yr hwn a ddywedodd, "Cwi yw halen y ddaear," &c.

"II. Sylwn, gan fod y gosodiad blaenorol yn rhesymol a phwysig, ei fod yn beryglus neillduol i Gristionogion fod yn. euog o beidio sylwi arno, ac yn enwedig ei wrthwynebu, trwy beidio cynorthwyo eu gweinidogion, er llwyddiant y weinidogaeth achubol. Ac mewn trefn i hyny gymeryd lle, angenrhaid yw i'r eglwys (os ewyllysia weled llwyddiant ar yr achos), i fod yn ofalus i sylwi ar y pethau hyny y dylent fod yn ochelgar neillduol rhag eu gwneuthur.

"1. Rhaid iddynt fod yn ofalus rhag na meddwl nac ymddwyn, megis pe byddent yn golygu nad oes angenrheidrwydd i neb ond y gweinidog i fod yn llafur a'r ymdrech, mewn trefn i gael adfywiad a llwyddiant ar grefydd yn eu mysg.

"2. Gochel rhag i Dduw eich cael yn euog o feio ar weinidogaeth y gweinidog, o herwydd ei bod yn aflwyddianus, os nad ydych chwi yn gwneud eich dyledswydd o gydwybodol weddio, llafurio, ac ymddwyn fel Cristionogion.

"3. Gochelwch rhag sefyllan fel edrychwyr, a gadael i'r gweinidog nychu ei hun, wrth ymdrechu myned â'r gwaith yn mlaen.

"4. Byddwch ofalus na feioch ar y gweinidog am bregethu yn eglur, llym, a chymhwysiadol.

"5. Nac ofnwch ac nac arswydwch rhag i'r annuwiolion i ddychrynu a thramgwyddo, o herwydd eu bod yn cael clywed eu bai o'r areithfa.

"6. Byddwch ofalus na chefnogoch y dyn terfysglyd ar un cyfrif.

"7. Os bydd eglwys am gynorthwyo ei gweinidog i ddwyn yn mlaen yr achos, bydded iddynt fod yn ofalus neillduol na wrthwynebont ei bregethau yn eu hymddygiadau a'u geiriau.

"III. Gan fod y gosodiad yn rhesymol a phwysig, diau ei fod yn teilyngu ein sylw a'n cefnogiad.