Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o amser, a mil i un na fydd ef yn sicr o'i ergyd. Gwelsom ef yn ddiweddar ar ddau o amgylchiadau felly, yn bwrw allan ddrychfeddyliau fel peleni o dân, nes cynhyrfu cynulleidfaoedd mawrion fuasent wedi lluddedu wrth wrando deg neu ddeuddeg o bregethau, yn ystod y diwrnod, mewn capel gorlawn, fel buasent oll yn sefyll ar eu traed, wedi llwyr anghofio eu lludded; ac ar ei waith yn diweddu, teimlai pawb yn siomedig, am na buasai yn parhau awr yn ychwaneg.

'Dyna ddarluniaid byr ac anmherffaith, ond cywir, feddyliwn, cyn belled ag yr â, o'r Parch. Evan Rowlands fel dyn ac fel pregethwr. Mae ei enw a'i nodweddiad, fel gweinidog da i Iesu Grist, yn deilwng o'u trosglwyddo i lawr i'r oesoedd a ddel.

"Ebrill 30, 1855. THOMAS REES, Cendl."

Ni pheidiodd Mr. Rowlands, trwy ystod ei weinidogaeth, ag efrydu gwahanol gangenau dysgeidiaeth, ac hyd y nod yr ieithoedd clasurol. Gŵyr y rhai sydd gydnabyddus â gweithiau hen awduron, fod llawer o honynt yn dueddol i fritho eu gwaith â geiriau ac ymadroddion yn yr ieithoedd Lladin, Groeg, a Hebraeg; a chan fod llyfrgell Mr. Rowlands yn cynwys llawer o weithiau yr hen dadau Puritanaidd, cyfarfyddai â lluaws o'r cyfryw eiriau a brawddegau. Ni foddlonai heb chwilio allan eu hystyr yn gyflawn, a llwyddodd i raddau helaeth iawn yn hyn. Nid oedd yn ysgrifenu llawer ei hun. Darllenwr a meddyliwr mawr oedd.

Yn y flwyddyn 1838, yr oedd i bregethu ar bwne neillduol yn nghyfarfod chwarterol y sir, a gynaliwyd yn Heolyfelin, Casnewydd. Cyhoeddodd y bregeth hono yn llyfryn 6ch., ar ddymuniad ei frodyr yn y weinidogaeth. Gwerthodd rai miloedd o honi, gan mwyaf yn Ngwent a Morganwg. Byddai yn dda i ail argraffiad o honi gael eu taenu trwy eglwysi Cymru y dyddiau hyn. Rhoddwn yma destun, mater, a chynllun y bregeth hono, er i'r darllenydd gael gweled, mai nid ysgafn a di-sylwedd oedd ei bregethau. Testun,—Galarnad i, 4: "Y mae ffyrdd Sion yn galaru, o eisiau rhai i ddyfod i'r ŵyl arbenig: ei holl byrth hi sydd anghyfanedd, ei hoffeiriaid yn ocheneidio, ei morwynion yn ofidus, a hithau yn flin arni." Mater,—"Y cysylltiad sydd rhwng ymddygiadau ac ymdrechion