Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drefnus i benau a changenau; ond nid gyda rhyw dlysni benywaidd. Nid mewn bertrwydd y mae rhagoriaeth ei bregethau yn gynwysedig; ond mewn cyd—gasgliad o feddyliau grymus, nodedig am eu newydd-deb (freshness), er nad ydynt ond anfynych wedi eu caboli yn ofalus. Mae yn nghwrs cyffredin ei weinidogaeth gyd-gyfarfyddiad dedwydd iawn o'r athrawiaethol a'r ymarferol. Anfynych y clywir ef yn traddodi pregeth athrawiaethol, heb un ergyd ymarferol ynddi; nac ychwaith bregeth ymarferol, heb un nodiad athrawiaethol. Yn ei ieithwedd hefyd, ceidw ar lwybr canolog, rhwng y rhai a draddodant eu meddyliau mewn iaith sych a diaddurn, a'r rhai a'u claddant dan haenau o eiriau chwyddedig a brawddegau blodeuog. Mae Mr. Rowlands yn draddodwr hapus iawn—parabla yn eglur—nid yw un amser yn ddiffygiol o ddigon o eiriau cryfion a phwrpasol; ac y mae ganddo lais cryf a pherseiniol, a'r fath lywodraeth ar agwedd ei wynebpryd, fel y llefara ei olwg yn llawn mor effeithiol a'i eiriau. Ei drefn gyffredin yw siarad yn weddol araf, ond nid yn farwaidd, am yr haner awṛ gyntaf, gan bwysleisio yn gryf yn awr a phryd arall; ac yna, am yr ugain mynyd diweddaf (canys ychydig gyda thri chwarter awr ydyw hyd ei bregethau), cyfyd ei lais yn uchel, a thonid ef yn anarferol o beraidd, dair neu bedair o weithiau yn ystod yr amser hwnw; a bydd ei wrandawyr gyda phob toniad a rydd i'w lais, mewn tymher i waeddi allan, "Melus, moes eto." Medrai ganu ei bregethau mor effeithiol a neb pwy bynag; ond ni chlywsom ef erioed yn gwneud hyny, canys pregethwr yw, ac nid fiddler ydyw. Saith mlynedd ar hugain i'r haf hwn y clywsom ef yn pregethu gyntaf. Gwrandawsom ef y pryd hwnw chwech neu saith o weithiau; a phe na buasem wedi ei weled na'i glywed byth wedi hyny, yr ydym yn sicr nas gallasem ei anghofio. Er ei fod yn awr mewn gwth o oedran, nid ydym yn gallu deall fod ei feddwl, na'i beirianau llafar wedi anmharu yn y mesur lleiaf. Dichon ei fod yn ei ddull cyffredin o draddodi, yn ystod y deg neu y pymtheg mlynedd diweddaf, wedi myned rywfaint yn fwy gwasgarog, (diffusive) a thrwy hyny i raddau, ar amserau, yn llai effeithiol; ond rhodder ef i bregethu yn olaf o dri ar ddiwedd cymanfa, neu gyfarfod chwarterol, pryd na byddo ganddo o'r eithaf dros o haner awr i ddeugain mynyd