Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rowlands yno. Yr oedd efe y pryd hwnw yn ei gyflawn nerth a'i fywiogrwydd. Gallesid barnu wrth edrych arno, nad oedd terfyn bron ar nerth ei gorph a'i feddwl. Trefnai y Gymanfa gyda medr neillduol. Ymddangosai fel tywysog yn mhlith y llu; ac wrth gyhoeddi y gwahanol oedfaon, yn nghyd â'r sylwadau pwrpasol a wnai ar y pryd, yr oedd yn ddoniol dros ben; fel y sylwai rhai o'r gweinidogion,—"Rhyfedd at athrylith ac arabedd y dyn yna." Mae llawer o'r gweinidogion ac o'r dyrfa fawr a gyfansoddent y Gymanfa enwog hono, wedi ehedeg ymaith i fyd yr ysbrydoedd fel yntau cyn hyn. Cymanfa ardderchog oedd, a diamheu genyf y cenir byth yn y nef am waith gras Duw ynddi. Daeth Mr. Rowlands i Ebenezer yn y flwyddyn 1829. Bu farw Ebrill 23ain, 1861. Felly, bu yn gweinidogaethu yn Ebenezer ychydig dros 31 o flynyddau. Pan oedd y Parch. T. Rees, D.D., Abertawe, yn Cendl, ysgrifenodd ysgrif ddarluniadol o Mr. Rowlands fel dyn a phregethwr, ac y mae yn hyfrydwch mawr genym osod ysgrif alluog Dr. Rees ger bron y darllenydd. Mae yr ysgrif yn deilwng o'i hawdwr ac o'i gwrthddrych, a diau genym y teimlir hyfrydwch wrth ei darllen.

"Y PARCH. EVAN ROWLANDS, Pontypwl.

"Mae Mr. Rowlands oddeutu 63 oed. Yn ddyn o gorph mawr, nodedig o luniaidd, tua phum troedfedd a deg modfedd o daldra—ei wyneb yn arw iawn gan ol y frech wen; ond mae ei dalcen mawr, llawn, a'i ddau lygad bywiog a siriol, yn fwy na digon o iawn am erwindeb ei wyneb. Y darluniad goreu a allwn roddi o'i feddwl, yw dweyd ei fod yn debyg i'w gorph, yn un mawr, garw, lluniaidd, a nerthol. Dichon nad oes nemawr o weinidogion, os oes un, yn Neheudir Cymru, wedi darllen mwy o weithiau duwinyddion hen a diweddar na Mr. Rowlands. Mae ei lyfrgell yn cynwys amryw ganoedd o gyfrolau, yn yr argraffiadau goreu, o weithiau y prif dduwinyddion, o'r oes Buritanaidd i lawr hyd yr oes hon; a thybiwn nad oes un ddalen o'r cyfrolau hyn heb ei throi ganddo a'i darllen yn ofalus. Yn gymaint a'i fod yn ddarllenwr mor fawr, gellir casglu yn naturiol fod ei bregethau yn gyfoethog o ddrychfeddyliau, ac mai nid cruglwyth o benau llymion ydynt. Rhana ei bregethau yn