Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y bryn, ger Pontnewynydd. Daeth i'w galon ddymuniad cryf i gael capel yn yr ardal hono. Dyn hynod oedd Edmund Jones, yr hwn a elwir yn gyffredin," Yr Hen Brophwyd o Bontypwl." Credai mewn arwyddion a gweledigaethau; a dysgwyliai, mae'n debyg, am arwydd pa le oedd y capel bwriadedig i gael ei adeiladu. Un diwrnod, fodd bynag, gwelodd belydrau dysglaer yr haul trwy y cymylau yn taro ar fan neillduol yn y goedwig oedd yn ngolwg ei dŷ, a'r adar yn pêr byncio yn y lle yr un pryd. Penderfynodd yn y fan mai dyna y lle yr oedd y capel i fod, ac felly y bu. Adeiladodd ei Ebenezer yn nghanol y coed yn y fan hono. Rhaid mai trwy ffydd yr oedd yr Hen Brophwyd yn gweithio; oblegid y pryd hwnw nid oedd ond ychydig drigolion yn agos i'r lle. Fodd bynag, daeth achos blodeuog yn Ebenezer. Ar ol marwolaeth yr Hen Brophwyd, daeth y doniol a'r boneddigaidd Ebenezer Jones yn weinidog i gapel Ebenezer, a bu yn llafurus a llwyddianus iawn am flynyddau. Yn nesaf ato ef daeth Mr. Rowlands yno. Yn nhymor dyfodiad Mr. Rowlands yno, yr oedd yr ardal wedi myned yn dra phoblogaidd—gweithiau glô wedi cael eu hagoryd o gylch y lle; ac er mor anghyfleus yr oedd Capel Ebenezer yn ymddangos pan adeiladwyd ef gan yr Hen Brophwyd, mae yn bresenol yn nghanol poblogaeth luosog, ac mewn man hynod gyfleus. Hen gapel cadarn, trymaidd, yn ol ffasiwn y dyddiau gynt, oedd Ebenezer yr Hen Brophwyd; ac nid oedd dim yn ddeniadol ynddo, ond y teimlad nefolaidd, a'r tân sanctaidd, oedd yn mynwes yr eglwys a gyfarfyddai ynddo i addoli. Yn yr hen gapel hwn y bu Mr. Rowlands yn tywallt allan ffrydlif ei fyfyrdodau yn mhethau mawrion Duw am amryw flynyddoedd. Ond rhai blynyddau cyn terfyniad ei weinidogaeth, adeiladwyd capel newydd, hardd, a chyfleus, yn lle yr hen adeilad. Talwyd yn gyflawn hefyd am dano, ac ychwanegwyd darn helaeth o dir at y fynwent. Torwyd i lawr y coedwigoedd gan mwyaf oedd yn ei amgylchynu; ac yn bresenol, mae y capel hardd yn ymddangos mewn lle ysgafn, prydferth, a dymunol iawn. Yr ydym yn cofio bod mewn Cymanfa yn Ebenezer, ychydig flynyddoedd wedi dyfodiad Mr.