Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd yr eglwys yn Ebenezer ar y pryd heb weinidog. Cafodd ei bregeth yno y fath ddylanwad ar feddyliau aelodau eglwys Ebenezer, fel y penderfynasant i roddi galwad iddo i ddyfod i lafurio atynt hwy. Yntau, wedi dwys a difrifol ystyried yn ddiamheu, a atebodd eu galwad yn gadarnhaol; ac yn y flwyddyn uchod, symudodd o sir Gaer'narfon, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Ebenezer. Wele hanes ei sefydliad yn Ebenezer, o'r Dysgedydd:—

"Sefydliad y Parch. Evan Rowlands yn Mhontypwl Gor. 15fed a'r 16eg, 1829. Y dydd cyntaf, cyflawnwyd y rhanau arweiniol o'r addoliad gan y brawd D. Davies, Penywain; a phregethodd y brodyr M. Morgans, Blaenafon, a T. Thomas, Caerlleon. Am 10 dranoeth, dechreuwyd yr oedfa gan L. Roberts, Cwmdu, a phregethodd y brawd Hopkins o Langatwg; yna gofynodd Ꭹ brawd Davies, Penywain, amlygiad o'r undeb rhwng y gweinidog a'r eglwys, yr hyn a roddwyd yn y dull arferol, ac yna gweddiodd am fendith ar y sefydliad ; wedi hyny pregethodd y brawd D. Lewis, o'r Aber, i'r gweinidog a'r bobl, er eu hanog i lanw eu lle yn y berthynas newydd. Am 2 o'r gloch gweddiodd D. Davies, o'r Gwestynewydd, a phregethodd y brodyr D. Hughes, o'r Casnewydd, a Thomas, o Gaerlleon (yn Saesnaeg), a Stephens, o Nantyglo. Wedi hyny, yn yr hwyr, gweinyddwyd gan y brodyr L. Lewis, Gwenddwr, a Sylvanus, Philadelphia. Cafwyd yma gyfarfod neillduol o gysurus, a hyderwn y bydd gwenau y nef ar y gwaith.—Cyfaill."

Rhyfedd gyfnewidiadau y byd hwn—nid oes yn bresenol ond ychydig iawn ar dir y byw o'r rhai oeddynt yn gweinyddu yn y sefydliad hwn.

Nid annyddorol gan y darllenydd gael yma ychydig o hanes Capel Ebenezer. Mae y capel dros filltir o dref Pontypwl, mewn ardal a elwir Pontnewynydd. Yn y flwyddyn 1721, derbyniwyd Mr. Edmund Jones yn aelod yn Penmain. Dechreuodd bregethu yn 1723. Ordeiniwyd ef yn Nghwm Ebwyfawr, tua'r flwyddyn 1739, yn gynorthwy i'r Parch. David Williams, gweinidog Penmain. Yn fuan wedi hyn, dechreuodd bregethu yn ardaloedd Pontypwl. Yn 1740, symudodd i fyw i'r Transh. Ffarm fechan ydyw y Transh ar fron