Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn lle arall y prydnawn, ac i ddychwelyd yn ol erbyn yr hwyr; yr oedd saith milldir a haner i'r lle hwnw, a'r un faint wrth gwrs i ddyfod yn ol. Darparodd y cyfeillion anifail i'w gario. Yr oedd hyny yn wir garedigrwydd; aeth yntau ar ei gefn; ond gyda hyny cofiodd nad oedd ganddo ddim yn ei logell i dalu y tollborth y gwyddai oedd ar y ffordd. Aeth yn y fan yn rhy lwfr i hysbysu y cyfeillion yr amgylchiad; disgynodd, a dywedodd ei fod yn dewis cerdded, yn hytrach na chymeryd yr anifail. Felly y bu; aeth i'r lle a phregethodd, a dychwelodd at ei gyhoeddiad erbyn yr hwyr. Costiodd y daith iddo lafur caled, ac yr oedd ei draed druain wedi pothellu yn ddrwg. Nid ydym yn golygu mai tlodi oedd yr achos ei fod heb ddim yn ei logell y pryd hwn, ond naill ai wedi anghofio cymeryd ychydig arian gydag ef, neu wedi golygu na buasai arno angen am arian cyn dychwelyd.

Mewn cyfarfod yn Abersychan, lle yr oedd dau o weinidogion Saesonig, perthynol i'r Wesleyaid, yn bresenol, adroddodd Mr. Rowlands yr hanes uchod, er dangos y llafur oedd yn nheithiau rhai o'u gweinidogion Cymreig. Cyfododd un o'r gweinidogion uchod i fyny, a dywedodd nad oeddynt hwythau yn Lloegr heb deithiau meithion ar brydiau i bregethu; ei fod ef wedi cerdded pymtheg milldir lawer gwaith i bregethu, ond nad oedd ei draed yn blistro; a'r casgliad oedd efe yn ei dynu oedd, fod ei draed ef yn galetach na thraed ei frawd Mr. Rowlands. Casgliad pur naturiol, ond fe allai nad oedd y Sais yn gorph mor drwm ag ef uwch ben ei draed. Nid ydym yn golygu am fynyd mai balchder barodd i Mr. Rowlands beidio amlygu ei amgylchiad, pan oedd heb ddim i dalu y toll-borth, ond nerth y teimlad hwnw oedd yn ei fynwes i beidio amlygu i eraill pan fyddai yn gyfyng arno. Mae rhai yn rhy dueddol i gwyno ac achwyn, ac felly yn ei gwneud yn anghysurus bod yn eu cwmpeini, o herwydd eu heithafion yn yr ochr hono. Barnwn fod Mr. Rowlands yn rhy dueddol i fyned i eithafion yr ochr arall.

Yn y flwyddyn 1829, daeth ar daith i sir Fynwy. Yn mhlith yr eglwysi yr ymwelodd â hwynt yn y sir hon, yr oedd Ebenezer, Pontnewynydd, ger Pontypwl.