Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod ganddynt yn y nef am gyfarfod yr Urddiad yn Capel Helyg. Wedi cael ei urddo, yr oedd Mr. Rowlands wedi dyfod o fewn cylch y weinidogaeth, a bod yn ddefnyddiol yn ddiau oedd y nod uwchaf y cyfeiriai ato. Ymroddodd ati o ddifrif i ddarllen a myfyrio y Beibl, a llyfrau da eraill. Nid oedd yn ddiog mewn diwydrwydd, ond yn wresog yn yr yspryd yn gwasanaethu yr Arglwydd. Nid oedd yr addysg oedd wedi allu gael cyn myned i'r weinidogaeth, ond wedi cyfodi syched yn ei enaid i ymeangu yn fwy mewn gwybodaeth a dysg. Llafuriodd i ddeall athrawiaethau mawrion crefydd, treiddiai i mewn i'r gwirioneddau mawrion dwyfol, a thraddodai ei bregethau gyda sel a nerth mawr. Nid oedd wedi myned i ryw lawnder mawr o bethau y byd wedi ymsefydlu yn sir Gaernarfon, oblegid nid oedd yr eglwysi yn Capel Helyg a Rhoslan yn gryfion a chyfoethog; ac nid oedd yr eglwysi y pryd hwnw wedi dysgu ond ychydig ar y wers o haelfrydedd at gynaliaeth y weinidogaeth. Llafuriodd, mae'n wir, y blynyddau y bu yn swydd Gaernarfon; ond llafuriodd dan lawer o anfanteision. Bu ei gynydd yn eglur i bawb a'i hadwaenent, a bu ei weinidogaeth yn fendith i laweroedd. Nid ydym yn golygu fod Mr. Rowlands, mwy nag eraill, heb ei golliadau pan oedd yn Capel Helyg a Rhoslan. Dywed y Parch. E. Davies yn ei lythyr atom fel y canlyn:—"Ond, ryw fodd ni tharawodd y gymydogaeth cystal ag yr oeddid yn dysgwyl; efallai pe buasai ychydig yn fwy siriol a chymdeithasol, y buasai yn taraw yn well. Nid oedd. gan neb, hyd a glywais erioed, un amheuaeth am ei onestrwydd a'i dduwioldeb, ac hwyrach, pe buasai ychydig yn fwy mwynaidd, ac yn llai sarug, y buasai yn well." Gallasai rhai feddwl wrth ei ddull weithiau fod tuedd i fod yn sarug ynddo, ond gŵyr y rhai a'i hadwaenent oreu, ei fod yn llawn cymdeithasgarwch, sirioldeb, a serch. Ymddengys i ni na pherthynai grwgnachrwydd i'w yspryd. Pan fyddai cyfyngder arno, nid oedd wedi dysgu cwyno wrth eraill. Fe allai ei fod ar rai amgylchiadau wedi cadw ei gyfyngder yn ddirgelaidd, pan y buasai yn ddoeth a da iddo ei amlygu i eraill. Yr oedd un Sabboth mewn lle yr bregethu yn y boreu a'r hwyr. Yr oedd i bregethu