Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am gryn dymhor yn Neuaddlwyd, fel pob myfyriwr arall, yr agorai rhagluniaeth ddrws o ddefnyddioldeb gweinidogaethol o'i flaen, a gobaith ni chywilyddiwyd fu ei obaith yn hyn. Y pryd hwnw yr oedd y Parch. Edw. Davies yn ymadael o Rhoslan a Chapel Helyg, sir Gaer'narfon, i Drawsfynydd a Phenstryd, swydd Feirionydd. Gofynai y cyfeillion yn Eifionydd i Mr. Davies, ar ei ymadawiad oddiyno, pwy a feddyliai a fuasai yn debyg o wneud y tro iddynt ar ol ei ymadawiad ef. Nododd yntau Mr Rowlands fel dyn plain, dirodres, a chryf, a fyddai yn alluog i fyned trwy bob tywydd, ac yn bregethwr da. Wedi treulio yr amser a fwriadai yn Neuaddlwyd, aeth ar daith i sir Gaer'narfon, a chafodd alwad gan yr eglwysi yn Rhoslan a Chapel Helyg, i ddyfod i lafurio yn ngwaith y weinidogaeth yn eu plith hwy. Derbyniodd yr alwad. Symudodd i sir Gaernarfon; ac ar yr 8fed dydd o Ebrill, 1824, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Capel Helyg a Rhoslan. Hanes ei urddiad sydd fel y canlyn:—

"Mercher a'r Iau, y 7fed a'r Sfed o Ebrill, 1824, y cynaliwyd cyfarfod yn Capel Helyg, swydd Gaer'narfon, yn yr hwn y neillduwyd E. Rowlands, diweddar fyfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, i waith y weinidogaeth. Y nos gyntaf am 6, dechreuwyd yr addoliad gan E. Jones, Neuaddlwyd, a phregethodd D. James, o Rosymeirch, a J. Griffiths, Pentraeth. Dydd Iau am 10, dechreuwyd yr addoliad gan Ll. Samuel, Bethesda. Traddodwyd y gyn-araeth gan D. Griffiths, Talysarn. Gofynwyd y gofyniadau gan T. Lewis, Pwllheli. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan W. Hughes, Dinas. Pregethodd Thos. Phillips, Neuaddlwyd, ar ddyledswydd y gweinidog, ac E. Davies, Trawsfynydd, ar ddyledswydd yr eglwys. Am 2, dechreuwyd yr addoliad gan J. Williams, Ffestiniog, a phregethodd W. Hughes o'r Dinas, a T. Phillips, Neuaddlwyd. Am 6, gweddiodd W. Davies, Penuel, a phregethodd W. Roberts, a D. Jones, Myfyrwyr o'r Neuaddlwyd." Dyna'r cyfarfod pwysig yna drosodd, a'r rhan fwyaf o'r rhai oeddynt ynddo ydynt cyn hyn wedi myned i ffordd yr holl ddaear. "Y tadau, pa le y maent hwy?" Pwy a ŵyr faint o goffa mewn llawenydd sydd wedi