Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan ereill, gweithiodd Evan Rowlands ei ffordd i'r Neuaddlwyd. Yr oedd yn awr wedi myned i anadlu mewn awyr newydd, ac i gymdeithas ereill, oeddynt yn cydymdrechu fel ei hunan, i gyrhaedd y ddysgeidiaeth angenrheidiol i waith mawr y weinidogaeth; a hyny trwy anfanteision lawer. Yr oedd bod yn mysg rhai oeddynt yn mhell o'i flaen, a rhai oeddynt ar ei ol mewn dysgeidiaeth, yn fanteisiol iddo. Gwnaeth yr Athraw ei ran iddo, a gwnaeth yntau ei ran drosto ei hun. Mwy na allwn ni yw darlunio ei holl helyntion tra bu yn Neuaddlwyd. Gwyddom na fu mewn llawnder mawr tra fu yno, a gwyddom iddi fod yn gyfyng ddigon arno rai prydiau. Cadwyd ef yn Neuaddlwyd am dri mis cyfan gan hen gyfaill iddo yno, yn gwbl ar ei draul ei hun. Yr oedd Rowlands yn foddlon a dedwydd neillduol yn mhob cyfyngder. Un tro, pan wedi bod mewn man yn pregethu-yr oedd cryn daith hefyd i'r lle hwnw—cafodd y swm fawr o swllt am ei bregeth. Wedi dychwelyd at ei gymdeithion nos Lun, adroddai ei hanes fel y canlyn:—"I had shilling, boys, for my sermon—bought half quire of paper and half ounce of tobacco, I got two-pence again, and that's all in the world." Buasai yr amgylchiad yna yn ddigon i yru ambell un bymtheg llath islaw bod yn bruddglwyfus; ond yr oedd ef yn gallu myned i'w wely mor siriol, a chysgu mor dawel, a phe buasai ganddo bum cant o bunau wrth gefn. Ymddiriedai yn ddiysgog yn Rhagluniaeth y Nef. Yr oedd un peth yn dda, nid oedd yn gostus i fyw yn ardal Neuaddlwyd, ond gallu byw yn galed; ac yr oedd efe wedi dysgu y wers hono cyn myned yno. Gofalodd rhagluniaeth fodd bynag iddo gael digon at ei gynaliaeth tra bu yn ymdrechu am addysg yn Neuaddlwyd. Yr oedd ei fryd ar gyrhaedd cylch o ddefnyddioldeb gyda chrefydd, ac addasrwydd i'r cylch y gwelai yr Arglwydd yn dda iddo gael troi ynddo. Ymgynaliodd yn siriol a boddlon yn mhob amgylchiad; cyflymodd yn mlaen mewn dysg; cynyddodd yn gyfartal mewn dawn i ymadroddi, a chyn hir, cyrhaeddodd safle lled uchel fel pregethwr. Yr oedd dau beth yn fanteisiol neillduol iddo—yr oedd ganddo corph cryf, a meddwl cryf, a gwnaeth y defnydd priodol o'r ddau. Gobeithiai Mr. Rowlands, wedi bod