Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychydig yn gyhoeddus, ar brydiau, a bu yn Llanwrin, Rhiw'rgwreiddyn, a manau eraill, yn arfer llefaru, yn of ei alluoedd, o dan y pulpudau. Nid oedd eto wedi cael ei awdurdodi i esgyn i'r pulpudau i gyhoeddi efengyl y tangnefedd. Agorodd ein tad ac ereill, fodd bynag, cyn hir iawn, y ffordd i Evan Rowlands i gael myned i'r pulpudau i gyhoeddi cenadwri y cymod. Penderfynodd yn fuan lwyr-ymroddi i'r gwaith; ond yr oedd yn teimlo fod arno eisiau dysgeidiaeth. Trwy gynildeb a diwydrwydd, ac, fe allai, gynorthwy ychydig gyfeillion, cyrhaeddodd fodd i gael ychydig ysgol. Yr oedd y diweddar Barch. O. Owens, Rhesycae, y pryd hwnw yn cadw ysgol ddyddiol yn y Dinas. Aeth yntau at O. Owens i'r ysgol. Yr oedd yno fel cawr mawr yn mhlith y plant; ac ni buasai fawr gorchwyl iddo gario haner dwsin o honynt ar ei ysgwyddau llydain; ond yr oedd yn eu plith mor llon a brithyll, ac mor ddiniwed a'r oen. Ymroddodd i ddysgu, ac yn ol manteision yr ysgol hon, dringodd ychydig i'r lan ar hyd grisiau dysgeidiaeth. Yr amser hwn, ac am flynyddau wedi hyn, yr oedd Athrofa yn Neuaddlwyd, dan ofal y Parch. Thos. Phillips, wedi hyny Dr. Phillips. Yr oedd yr Athrofa hon y pryd hwnw mewn bri mawr yn Nghymru. Derbyniodd llawer o weinidogion enwog Cymru eu haddysg yn y Neuaddlwyd. Nid oedd enwogrwydd neillduol yn perthyn i Golegdy Neuaddlwyd. Hen dŷ tô gwellt ydoedd, yn cynwys ond dwy ystafell; eto rhoddwyd addysg dda gan yr enwog Phillips i lawer gweinidog doniol a gyfododd yn ein gwlad. Efe fu yn cyfeirio meddwl yr anwyl a'r enwog David Jones, Madagasgar, a lluaws mawr ereill o weinidogion Duw a fuant ddefnyddiol yn Nghymru a gwahanol ranau ereill o'r byd. Yr ydym yn cofio yr amser pan fyddai cyhoeddiad dau o fyfyrwyr Neuaddlwyd yn ddigon i sicrhau cynulleidfaoedd mawrion i'w gwrando; ac nid rhyfedd chwaith, oblegid, yn y cyffredin, pregethent gyda nerth a bywiogrwydd neillduol, gan amlygu fod sel danllyd yn enyn o'u mewn. Nid oes ond goleuni y byd tragywyddol a ddatguddia pa faint o ddaioni a wnawd trwy siroedd Cymry trwy bregethau miniog myfyrwyr Neuaddlwyd.

Trwy ei ymroddiad ei hun, ac ychydig gynorthwy