Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ein tad hefyd yn arfer myned i bregethu i Ty'nrhos, yn agos i'r Cemes, lle byddai ychydig bobl yn arferol o ddyfod yn nghyd i wrando y gair. Mae yn yr ardaloedd hyny gyfnewidiadau mawrion er gwell wedi cymeryd lle erbyn hyn. Mae capel bychan yn agos i Ty'nrhos, a chapel da arall wedi ei adeiladu rhwng yno a Mallwyd, sef capel Sammah, y rhai ydynt yn bresenol dan ofal y Parch. Hugh Morgans, cydymaith a chyfaill anwyl i Mr. Rowlands er boreu ei oes. Parhausant yn gyfeillion calon hyd ddiwedd oes Rowlands, a byddant yn gyfeillion, mae yn ddiau genym, am byth yn y nef. Ymaflodd Rowlands â'i holl galon mewn crefydd pan ddaeth ati. Gweddïai yn daer am ei llwyddiant; a dywedai ei oreu am ei gwerth. Bu yn dra defnyddiol am rai blynyddau fel aelod yn Llanwrin a Rhiw'r gwreiddyn; er mae yn Llanwrin yr oedd y pryd hwn yn preswylio, gyda'i hen gydnabod yn y Dinas y teimlai ei hun gartref, ac yno yr oedd cartrefle ei serch. Teimlai awydd yn ei galon yn aml i fyned yno, ac i Ty'nrhos, i wrando ein tad yn traddodi hen wirioneddau yr efengyl. Ond yr oedd cryn ffordd ganddo i gerdded i'r Dinas, ac yr oedd afon Dyfi yn rhwystr mawr ar ei ffordd i fyned iTy'nrhos, am nad oedd pont i groesi yr afon, ond naill ai i lawr yn agos i Machynlleth, neu i fyny yn agos i Mallwyd. Ond nid oedd Dyfi na phob rhwystrau eraill, yn ddigon i attal Evan Rowlands i ymwasgu at ei hen gyfeillion. Ai i Ty'nrhos i gyfarfodydd a gynelid yno, a mawr fwynhäai ei hun wrth gyduno â'r rhai a gyfarfyddent yno i addoli yr Iôr. Ymwelai mor fynych y gallai â'i hen gyfeillion yn y Dinas. Pan fyddai yn y Dinas, carai ei hen gydnabod yno yn fawr ei glywed yn gweddio, ac yn d'weyd ei feddyliau am grefydd yn y cyfeillachau. Cwbl gredodd ei hen gyfeillion yn y Dinas fod Yspryd yr Arglwydd wedi ymaflyd yn ei enaid. Sylwent wrth eu gilydd fod rhywbeth yn Evan Rowlands nad oedd yn ei gyfoedion yn gyffredin. Gwelent ol darllen a meddwl ar ei syniadau; a theimlent fod gafael a nerth yn ei weddiau. Cytunasant hwy â'u gweinidog i roddi anogaeth iddo i arfer ei ddawn yn fwy cyhoeddus, gan arwyddo iddo y gallasai fod yn fwy defnyddiol felly gydag achos y Gwaredwr, ac yn fendith i'w gydgreaduriaid. Dechreuodd yntau ddweyd