Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ceisio peidio, ac yn methu hyny hefyd ? pa feddyliau a wibiasant trwy ei fynwes, am angau, barn, a byd tragywyddol? Nid tebyg i Yspryd yr Arglwydd lwyr gilio oddiwrtho yn ystod y blynyddau hyny.

Symudodd ei dad a'r teulu i dyddyn bychan a elwid Blaencwmllune, ardal gyfagos i'r Cemes. Yr oedd ein tad yn arfer myned i bregethu i dŷ cyfagos yno a elwid Drws-y-nant, lle byddai ychydig ddysgyblion i'r Gwaredwr yn arfer cyfarfod, ac ychydig bobl yn dyfod yn nghyd i wrando y gair yn cael ei bregethu. Byddai ein tad hefyd yn pregethu mewn lle arall ychydig filltiroedd yn nes i Machynlleth, a elwid Ty'n-rhos. Bu pregethiad yr efengyl yn fendith i fagad o bobl yn yr ardaloedd hyn y pryd hwnw. Yn y cyfnod hwn yr ymunodd Mr. Rowlands à chrefydd, ac y daeth yn ddysgybl cyhoeddus i'r Gwaredwr, a hyny yn mhen tua phum mlynedd wedi iddo gael Beibl i'w feddiant, a phan oedd tua dwy ar ugain oed, tua'r flwyddyn 1814. Yr oedd eglwys fechan wedi ei ffurfio yn Drws-y-nant, ac yn ol yr hyn a allwn ddeall, golygwn mai yno y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig. Barna rhai mai yn Llanwrin (yr hwn le ddaw dan ein sylw eto) yr ymunodd â chrefydd; ond ymddengys yn fwy tebygol mai yn Drws-y-nant y derbyniwyd ef. Bu yn y cyfnod hwn yn gwasanaethu mewn fferm yn yml Drws-y-nant, o'r enw Cwmeidrol. Pan yno, ymddengys fod ei enaid yn llawn tanbeidrwydd a gwres crefyddol. Dywedir y byddai yn arfer canu hyd lechweddi a meusydd Cwmeidrol, nes y byddai y cymoedd cyfagos yn adsain. Yr oedd ei lais fel udgorn. Ni wyddai y pryd hwnw ddim am wendid corph na meddwl. Symudodd wedi hyn o Flaen-cwm-llune, ac aeth i drigo i Llanwrin. Mae Llanwrin ychydig filltiroedd yn uwch i fyny na Machynlleth, ac ychydig filltiroedd yn îs i lawr na'r Cemes, ond yr ochr arall i afon Dyfi, yr hon a red i lawr o Fawddwy i Aberdyfi. Mae Llanwrin mewn man hyfryd, wrth wadn mynydd, ar ymyl gwastadedd prydferth, trwy yr hwn yr ymlithra yr afon Dyfi tua'r môr. Yn Machynlleth yr oedd yr eglwys agosaf i Llanwrin, a'r pryd hwnw dan ofaly Parch. Dd. Morgans; ond yr oedd pregethu yn achlysurol yn Llanwrin, ac ychydig enwau yno yn addoli Duw. Yr