Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y dwyfol Air, nac wedi meddwl mai llyfr egwyddorion oedd yn benaf, ac mai fel y cyfryw y dylasai gael ei efrydu. Bu yr hen Feibl, fodd bynag, yn llyfr parch ganddo. Mae gan ddynion ddillad parch, fel eu galwant, ac esgidiau parch, i'w gwisgo weithiau ar achlysuron neillduol; ac mae gan rai pobl Feibl parch, cadwant ei ddail mor lân, ac ni agorir ei gloriau un amser, ond ar amgylchiadau neillduol iawn, drwy bedwar chwarter y flwyddyn; ond nid yn y modd yna y golygai Evan Rowlands i'w Feibl ef i fod yn Feibl parch; eithr trwy ddisturbio ei ddail yn aml, a mynu gwybod ei gynwysiad ôl a gwrthol. Mae ei hen Feibl ef yn dyst mewn bod yn awr, mai nid parch trwy ei adael yn llonydd oedd y parch roddodd ei berchenog iddo ef; ond y parch hwnw o'i gadw mewn gwaith yn barhaus, a dyma y parch mae Awdwr y Beibl yn ddymuno iddo gael gan bawb. Bu yr hen Feibl yn gydymaith anwyl iddo ef drwy ei oes, a chafodd ynddo yr hyn y cân am dano byth. Nid ydym yn gwybod pa bryd y dysgodd ein cyfaill ysgrif enu; ond wedi dysgu, ysgrifenodd mewn gwahanol fanau, yn yr hen Lyfr, a ganlyn:—"I was 17 years age when I came a possessor of a Bible. E. Rowland's Book, 1809, bought of the Rev. W. H., Dinas Mawddwy, when 17 years of age. This is the first Bible I was owner of. Blessed be God for it. Borrowed money to pay for it. My F—— would not give them to me, though he possessed some hundreds then.—E. R. Dyma y Beibl cyntaf erioed a ddaeth i'm meddiant I, a hyny t rwy gael benthyg modd i'w brynu gan fy mrawd, pan oeddwn rhwng 16 a 17 oed.—E. Rowlands."

Bugeila defaid, trin anifeiliaid, a llafurio y ddaear fu gorchwylion Rowlands yn moreu ei oes; gwelsom ei fod yn agos i ddwy flwydd ar bymtheg oed pan gafodd Feibl gyntaf i'w feddiant. Nid oes genym ddim o'i hanes am y pum mlynedd dyfodol. Pa faint o ddefnydd a wnaeth o'r Beibl? pa faint o bregethau a wrandawodd? pa faint o gymdeithas crefyddwyr a fwynhaodd? pa fa faint o ymdrech fu gan ddiafol i gadw meddiant o orsedd ei galon? pa gyffroadau a deimlodd am fater ei enaid? pa faint a deimlodd oddiwrth fin cleddyf yr Yspryd, ac argyhoeddiad ei gydwybod? pa faint o weithiau y bu yn ceisio gweddio, ac yn methu? yn