Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efengyleiddiaf, a ffyddlonaf fu gyda chrefydd erioed yn Nghymru; mae yntau yn ngwlad yr hedd er's llawer dydd. Cerddodd ef a'r ffyddlon Rowland Evans, Dolobran, ganoedd lawer o filldiroedd i Lan y Mawddwy, yn ol ac yn mlaen, gan ymdrechu yn deilwng gyda'r ychydig achos yno, ac addysgu y plant yn yr ysgol Sabothol. Meddylied trigolion Mawddwy am eu blaenoriaid; ffydd y rhai dilynant; maent hwy yn bresenol yn medi mewn llawenydd y wobr dragywyddol.

Mae plant brawd gwrthddrych ein cofiant yn awr yn eu cyflawn nerth, ac yn ffyddlon gyda'r gwaith da. Un o honynt ydyw James H. Rowlands, o Wigan, yn bresenol. Gwr enwog iawn mewn cerddoriaeth; a'r llall ydyw Ioan H. Rowlands, Dinas Mawddwy, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am amryw gofnodion a gynwys ein cofiant. Ond yn nhŷ y gweinidog y gadawsom Evan Rowlands, wedi cael Beibl i'w law, a'i galon yn dychlamu o lawenydd. Nid ydym yn gwybod pa bethau a gymerasant le tra y bu yn y tŷ gyda phryniad y Beibl; diamheu i'n tad deimlo llawenydd yn ei galon wrth weled Evan yn dyfod mor bryderus i geisio Beibl, ac feallai i'w enaid ddyrchafu at Dduw mewn diolch am yr olygfa, a gweddi drosto, am iddo gael bendith dragywyddol yn y trysor oedd wedi bwrcasu. Golwg wir ddyddorol oedd gweled bachgen o oedran Evan Rowlands y pryd hwnw, wedi dyfod rai milldiroedd mewn awyddfryd mawr i brynu Beibl. Wedi cael y Beibl, digon tebyg mai yr hyn a dynodd ei sylw gyntaf oedd hanesion rhyfedd yr hen Lyfr. Wedi myned dros hanes y cread, y patriarchiaid henafol, y diluw aruthrol, ac heibio i Abraham, Isaac, a Jacob, cafodd ddyddordeb hynod yn hanes Joseph, a gwaredigaeth Israel o'r Aipht; a theimlodd hyfrydwch mawr iawn fel ninau lawer tro, pan yn ieuanc, yn hanes Dafydd y bugail yn soddi y gareg lefn yn nhalcen y cawr mawr o Gath, ac yn tòri pen Goliath â'i gleddyf ei hun, a buddygoliaeth fawr pobl yr Arglwydd ar y Philistiaid dienwaededig. Daeth yn mlaen hefyd at hanes Iesu mawr, yr hanes hynotaf o holl hanesion y greadigaeth. Ei enedigaeth, ei fywyd, ei waith, ei ddyoddefiadau, ei farw, ei adgyfodiad, a'i esgyniad i'r nef. Nid oedd Evan y pryd hwn yn ymhyfrydu cymaint yn athrawiaethau dyfnion