Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amser hwnw; yn ei babandod bron yr oedd, ond erbyn heddyw, hi ydyw brenhines y cymdeithasau; ac y mae wedi dyfod â'r Ysgrythyrau Sanctaidd yn bur a chyflawn i gyrhaedd hawdd y tlotaf yn ein tir. Mor ddiolchgar y dylem fod am y gwelliant mawr sydd wedi cymeryd İle yn hyn.

Yr oedd Evan Rowlands, trwy ryw foddion, wedi dyfod i'r wybodaeth fod gan Wm. Hughes, gweinidog Dinas Mawddwy,Feibl i'w werthu, ac wedi cael benthyg yr arian gan ei frawd, dych'mygwn ei weled yn hwylio ei gamrau tua'r Dinas, ei lygaid yn loëw o londer, a'i galon yn llawn llawenydd, gan feddwl dyfod i feddiant o'r trysor; ac wrth gerdded yn mlaen, yn fynych yn teimlo ei logell, rhag i'r arian gilio allan o honi cyn iddo gyrhaedd tŷ y gweinidog. Fodd bynag, cadwodd hwynt yn ddiogel nes cyrhaedd pen y daith; wedi myned i mewn i'r tŷ, a d'weyd ei neges, heb amgylchu na môr, na mynydd, cafodd y Beibl i'w law; yr oedd yr arian yn ei ddwrn yn barod, a thalodd am dano gyda hyfrydwch calon. Teimlai ei hun fel wedi ysgafnhau wedi gwneud hyn, fel pe buasai yr ychydig arian yn ddyeithriaid peryglus yn ei logell, ac fel pe buasai wedi cael gwaredigaeth o faich trwm; nid rhyfedd chwaith oedd hyfrydwch ei deimlad, wrth ymadael â'r ychydig arian am Feibl, oblegid yr oedd yn cael yn eu lle yr hyn oedd werthfawrocach nag aur, ïe, nag aur coeth lawer, a'r hyn oedd felusach na mêl, ac na diferiad y diliau mêl.

Nis gwyddom pa un o'i frodyr a fenthycodd yr arian iddo. Aeth un brawd iddo i'r Brif Ddinas, ac yno y bu farw yn fuan ar ei ol ef. Yr oedd brawd arall iddo yn agos i'r Dinas. Dyn call, doniol, a medrus oedd hwnw. Bu flynyddau lawer gyda'r achos goreu yn y Dinas, a bu yn ddefnyddiol iawn yn ei ddydd. Mae yntau wedi myned er's blynyddau rai i ffordd yr holl ddaear; ac yn bresenol, mae yn ddiau genym, yn nghwmni y Gwaredwr mawr, ac ysbrydoedd y cyfiawnion, y rhai a berffeithiwyd. Mae ei weddw yn fyw, ac yn ffyddlawn gyda chrefydd. Merch ydoedd hi i Shon James, Tŷgwyn, ger y Dinas, a chwaer i'r Parch. Hugh James, Llansantffraid, Sir Drefaldwyn. Yr oedd Shon James yn un o'r hen flaenoriaid callaf,