Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wanaidd iawn yn y cychwyniad, ond yn myned oleuach, oleuach, hyd ganol dydd; neu fel tarddiad bach gwan o ddwfr, ond yn tarddu hefyd, yn rhedeg yn mlaen, gan gynyddu, nes o'r diwedd ymdywallt yn afon nerthol i fôr mawr tragywyddol ogoniant.

Pan oedd Evan Rowlands rhwng 16 a 17 mlwydd oed, penderfynodd y mynai Feibl yn feddiant iddo ei hun; ond pa fodd i'w gael, oedd bwnc dyrus i'w benderfynu; nid oedd ganddo fodd ei hun i'w brynu. Os byddai gan lanciau y wlad fel efe ychydig geiniogau yn eu llogellau erbyn ffair y Dinas, i brynu ychydig o ddanteithion ddiwrnod y ffair, ystyrient eu hunain yn gyfoethog iawn; ond yr oedd arno efe eisiau mwy na rhyw ychydig docins i brynu cacenau melusion, sef, digon i ddyfod i feddiant o'r dorth gyflawn o fara y bywyd. Nid oedd yn meddu y cyfoeth a brynai Feibl ei hun; ac nid oedd ei dad yn gweled un gwerth iddo gael Beibl; ni roddai arian ar un cyfrif, er bod yn ddigon galluog i hyny, i Evan i brynu Beibl. Yn y tywyllwch yr oedd druan, heb weled ei werth erioed iddo ei hun, ac felly ni welai ei werth ychwaith i'w fab. Gobeithiwn iddo ddyfod o'r tywyllwch mawr hwnw i'r goleuni wedi hyny.

Yr oedd yn dywyll fodd bynag ar Evan am Feibl, rhwng ei dlodi ei hun, ac anewyllysgarwch ei dad, i roddi arian iddo i bwrcasu un ; ond yn y cyfyngder, yr oedd brawd ganddo yn alluog i roddi benthyg digon o arian iddo i brynu y Gyfrol Sanctaidd, ac felly y bu. Llwyddodd i gael benthyg arian gan ei frawd i brynu Llyfr rhyfedd y crefyddwyr. Anaml iawn, os byth, y mae pob drws yn cau yn erbyn y rhai sydd yn gwir ddymuno am ddaioni. Bu yn dywyll iawn ar lawer o etifeddion gogoniant, mewn llawer iawn o amgylchiadau; ond nid yn aml, os un amser, y buont mewn tywyllwch, heb un pelydryn o oleuni, y cauodd yn eu herbyn mor gyflawn, heb un drws yn agoryd iddynt i gael gwaredigaeth. Felly agorodd un drws i wrthddrych ein cofiant, yn ei gyfyngder am gael Beibl yn etifeddiaeth iddo ei hun. Nid gorchwyl hawdd iawn oedd i bob gradd gael meddianu y Beibl y pryd hwnw; nid oedd y gymdeithas fawr er taenu Gair yr Arglwydd yn rhad trwy Gymru, Lloegr, a'r byd, ond newydd ddyfod i fodolaeth yr